ARWR YN 19 OED
Tybed faint o drigolion Gwynedd sydd yn gwybod hanes gŵr a gafodd ei addysg gynnar yn hen Ysgol y Bechgyn ym Mhenrallt Isaf, Caernarfon. Gwelir ei lun uwchben y groes yn y darlun o ddosbarth 3A yn y flwyddyn 1930/31.
Fe gafwyd y llun gan Mr T.G. Griffith, 16, Stryd Gelert, Caernarfon (y pumed o'r chwith yn y rhes ganol) a mawr ddiolch iddo am dynnu sylw awdur hyn o eiriau at hanesyn echrydus a ddigwyddodd yng nghanol Môr Iwerydd ar ddiwrnod Guto Ffowc yn y flwyddyn 1940.
Roedd John Lewis Jones yn byw gyda'i rieni a brawd o'r enw Leonard yn Stryd Wynne, Caernarfon ar ddechrau'r 1930au, ac, yn ôl Tom Griffith, roedd yn arlunydd addawol iawn, bryd hynny. Aelod o'r Heddlu oedd ei dad a chafodd ei anfon fel Heddwas i Nefyn rhywbryd yn ystod y 1930au cynnar ac yno yr ymgartrefodd y teulu.
A John Lewis Jones yn 16 oed yn y flwyddyn 1937, fe benderfynodd ar yrfa yn y Llynges Fasnachol ac ymunodd a'i long gyntaf, tancer o'r enw San Felix fel prentis mewn morwriaeth. Y llong honno oedd ei gartref am y naw mis a hanner nesaf a bu hi'n cludo olew o'r Dutch East Indies ac yn ymweld â phorthladdoedd Rio de Janeiro, Montevideo a Buenos Aires. Yna, yn y flwyddyn 1938 ymunodd a thancer arall o'r enw San Demetrio ac yn ôl ei dystiolaeth ei hun, fe ddysgodd lawer mwy am y gwaith yn ystod y cyfnod hwnnw o flwyddyn a naw mis. Ar y llong hon ydoedd pan dorrodd yr Ail Ryfel Byd allan ar Fedi'r 3. 1939 ac o hynny ymlaen, fel yn achos llawer iawn o fechgyn ifanc, dwysaodd ei hyfforddiant a bu raid iddo dderbyn cyfrifoldebau ynghynt nag arfer.
Roedd y San Demetrio mewn confoi o longau a oedd yn cael eu gwarchod gan long ryfel Brydeinig HMS Jervis Bay ac am hanner awr wedi pedwar o'r gloch ar Dachwedd 5. 1940, ymosodwyd arnynt gan un o longau rhyfel mwyaf yr Almaen Admiral Von Scheer ac er i'r Jervis Bay ymladd yn ddewr iawn yn ei herbyn, yr Admiral Von Scheer a orfu, ac yna fe ymosododd ar y llongau masnach yn y confoi gan greu difrod mawr. Cafodd y San Demetrio ei tharo sawl gwaith gan ergydion gynnau mawr yr Admiral Von Scheer. A hithau bellach ar dân, rhoddodd Y Capten Waite orchymyn i bawb adael y llong mewn badau achub, am hanner awr wedi pump. Cafodd Jack Lewis, fel yr adwaenid ef yn Ysgol y Bechgyn, ei hun yn un o'r badau a chan i fad achub arall fod yn llawn dŵr, methwyd â'i defnyddio a bu raid i'r Ail Swyddog a'i griw ef ymuno â nhw. Cawsant gip olwg ar fad arall o dan ofal y Prif Swyddog. Roedd ef dan orchymyn i'w griw rwyfo am eu bywydau o gyrraedd y llong rhag iddi ffrwydro. Gwnaeth criw Jack Lewis yr un modd, ac erbyn hyn roeddynt wedi colli cysylltiad â'r bad arall.
Yn ystod y pnawn drannoeth, Tachwedd 6,
gwelsant long ar y gorwel, ac wedi codi hwyl a nesau ati, sylweddoli mai y San Demetrio ydoedd, ond gan mor arw oedd y môr nid oedd yn bosib mynd yn ôl ar ei bwrdd. Y diwrnod dilynol roedd y tywydd beth yn well a bu iddynt lwyddo i wneud hynny. Roedd y llong yn dal i fod ar dân a gweithiodd pawb yn hynod galed i'w ddiffodd. Yr orchwyl bwysicaf, drannoeth, oedd ceisio cael y peiriannau i weithio, ond cyn i hynny ddigwydd bu raid i'r Prif Beiriannydd a thri arall, gan gynnwys Jack Lewis roi eu bywydau mewn perygl trwy fynd i berfedd y llong lle roedd nwyon gwenwynig ac yno y buont yn agor falfiau ac yn trin y boeleri.
Yn ystod y pnawn hwnnw cyhoeddodd y Prif Beiriannydd bod y peiriannau yn gweithio ac y gallent ail gychwyn y llong, ond nid oedd ganddynt unrhyw offer Morwriaeth o gwbl a oedd yn angenrheidiol i lywio'r llong i'r cyfeiriad iawn a bu raid iddynt ddewis pa un ai mynd yn eu holau i Ogledd America ynteu canlyn ymlaen i gyfeiriad Prydain. Gan fod y tywydd i gyfeiriad y Gorllewin yn gwaethygu penderfynu wnaethant i anelu am adref.
Cymerodd Jack Lewis ei dwrn ar yn ail a'r Prif Beiriannydd wrth lyw y llong a dibynnu yr oeddynt ar yr haul yn y dydd a'r sêr yn y nos i'w cyfeirio tuag at Ewrop. Ar Dachwedd 13. gwelsant dir ar y gorwel, ond yr hyn oedd yn pery poendod iddynt oedd ymhle yn union oeddynt. Ai Iwerddon ynteu Ffrainc? Wrth lwc, roeddynt wedi cyrraedd bae ar arfordir Gorllewin Iwerddon. Oddi yno fe gawsant gymorth llong ryfel i'w gwarchod yr holl ffordd i Greenwich ar y Clyde a dyna groeso a oedd yn eu haros. Roedd y Prif Beiriannydd a'i griw bach wedi llwyddo i drwsio'r pympiau ac fe ddadlwythwyd y cargo. 11,000 o dunelli o'r olew gyda dim ond 200 tunnell wedi ei golli o ganlyniad i'r difrod.
Am eu gwrhydri
anrhydeddwyd aelodau o'r criw gan gynnwys Y Prif Beiriannydd Charles Pollard a'r Prentis John Lewis Jones. Cafodd y ddau fedal am ddewrder mewn rhyfel (Lloyds War Medal) ac ar Chwefror 21. 1941, derbyniodd y Prentis J.L. Jones y BEM. Yn ychwanegol at hyn cafodd yr oll o'r rhai a ail esgynnodd i fwrdd y llong ran o'r Salvage Money o £14,000 am lwyddo achub bron y cyfan o'r cargo.
O ganlyniad i'r hanes rhyfeddol hwn am y San Demetrio ac aelodau o'i chriw fe wnaed ffilm o'r enw San Demetrio London gan Ealing Studios yn y flwyddyn 1943.
Atgyweiriwyd y llong a gwnaeth sawl mordaith wedi hynny, ond ar ddydd Gŵyl Batrig 1942, fe'i suddwyd gan dorpîdo a daniwyd oddi ar y llong danfor Almeinig U404 a chollwyd pob aelod o'r criw o 48.
Yn ffodus i John Lewis Jones roedd wedi ei gyflogi ar long arall a goroesodd y rhyfel. Arhosodd yn y Llynges Fasnachol ac ar ôl sefyll yr arholiadau priodol, fe ddiweddodd ei yrfa fel Capten. Yna yn y flwyddyn 1971, yn 50 oed bu raid iddo ymddeol o achos cyflwr ei iechyd a threuliodd weddill ei oes yn ardal Nefyn, gan gymryd diddordeb mawr yn hynt Bad Achub Porthdinllaen ac yn arlunio. Yn 1986 y bu farw yn 65 oed.
O.N.
Diolch hefyd i Meic Massarelli am y llun o Capten John Lewis Jones fel oedolyn ac i Gwenllian Jones, y ddau o Ben Llŷn, am y darlun o'r San Demetrio ar ôl iddi gyrraedd Iwerddon yn 1940.
© T. M. Hughes 2010