Caernarfon Ddoe/Caernarfon's Yesterdays header



Y BATON AUR

Bu Caernarfon yn enwog am ei chorau erioed, boed hwy yn gorau Cymysg, Meibion neu Ferched, ac enillodd y rhai hyn niferoedd o wobrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol er mawr foddhad i bobl y dref. Fodd bynnag, stori yw'r canlynol am lwyddiant un côr a fu'n gyfrifol am greu chwerwedd ymysg yr aelodau.

Yn 1889, penderfynodd William Jones, Arweinydd Côr Cymysg yng Nghaernarfon gystadlu yn y brif gystadleuaeth gorawl yn Eisteddfod Genedlaethol Aberhonddu, lle cynigiwyd £50 ynghyd â Baton Aur gyda'r geiriau "Môr o Gân yw Cymru i gyd" wedi ei gerfio arno. Byddai'r côr buddugol yn gorfod dychwelyd y Baton Aur ymhen deuddeng mis yn ôl y rheolau, ond pe llwyddai un côr i ennill y gystadleuaeth ddwy flynedd yn olynol byddai gan y côr hwnnw yr hawl i'w gadw.

Arweinydd lleol buddugol.
Arweinydd lleol buddugol
Perchennog gweithfeydd aur Gwernfynydd, Meirionnydd, oedd brodor o Gasnewydd, William Pritchard Morgan, ac ef a roes y baton i'r Eisteddfod ar gyfer y gystadleuaeth yn 1888. Enilliwyd ef y flwyddyn honno gan gôr o'r Drenewydd yn Eisteddfod Wrecsam, ond i Gaernarfon y daeth y baton yn 1889, er mawr lawenydd i'r trigolion.

Wedi ei ennill unwaith roedd yr arweinydd, William Jones, clerc wrth ei alwadigaeth, yn benderfynol o ennill yr eildro fel y cawsai ei gadw am byth. Gweithiodd ef, a'i frawd David Jones, fferyllydd ar Stryd Fangor, - a oedd yn ddirprwy iddo ac yn drysorydd y côr - yn ddi-flino i gael yr aelodau i fyny i'r safon ar gyfer y gystadleuaeth yn Eisteddfod Bangor, 1890. Daeth rhai o aelodau'r côr i sylweddoli beth oedd ym mwriad yr arweinydd ac yr oedd cryn anniddigrwydd yn eu plith. James Jones, a weithiau i'r Gwaith Nwy oedd uchaf ei gloch am y peth, a chododd ef y cwestiwn, pe byddent yn fuddugol yn y gystadleuaeth, pwy a fyddai piau Baton Aur? Rai dyddiau cyn y gystadleuaeth oedd hyn a gwylltiodd William Jones yn gacwn gan wrthod rhoi ateb iddo a dweud mai ennill oedd yn bwysig. Oni fyddent yn ennill byddai'r cwestiwn ddim yn codi. Rhoes hyn daw ar Jones y Gas a'i gyfeillion am y tro.

Rhoddodd tri chôr eu henwau ymlaen ar gyfer y gystadleuaeth, sef Blaenau Ffestiniog, Talysarn a Chôr Caernarfon (Caernarfon Vocal Union), ond tynnodd Talysarn yn ôl ar y funud olaf gan adael dim ond dau. Y ddau ddarn gosod oedd "The Brook" gan Tom Price a "Bydd Melys Gofio y Cyfamod" gan Isalaw, ac nid oedd gan y beirniaid amheuaeth nad Côr Caernarfon oedd yn fuddugol gyda chanmoliaeth uchel. Roedd William Jones ar ben ei ddigon, ac ni feddyliodd ddim am y stŵr a fyddai'n codi wedi'r fuddugoliaeth.

Cafwyd dathlu mawr yng Nghaernarfon y noson honno, ac am ddyddiau i ddilyn. Arddangoswyd y baton mewn ffenestr siop yn Stryd y Plas ac roedd yn y dref ymdeimlad o falchder dinesig na welwyd mo'i fath. Ond wedi i'r iwfforia gyrraedd ei binacl a phethau ddechrau dychwelyd i normalrwydd, cododd yr hen gwestiwn ei ben unwaith eto, sef pwy a oedd piau'r baton aur, ai yr arweinydd neu a oedd o yn eiddo i holl aelodau'r côr?

Gofynnwyd y cwestiwn i William Jones, ac atebodd yntau yn bendant mai ei eiddo ef ydoedd, ei fod yn ei feddiant ac nad oedd yn barod i'w rannu ag unrhyw un. Roedd y côr yn anghytuno, a'r hyn a wnaethant oedd codi pwyllgor i drafod y mater. Codwyd Jones y Gas yn ysgrifennydd a gofynnwyd iddo sgwennu llythyr at y person a gyflwynodd y baton i'r Eisteddfod Genedlaethol, sef William Pritchard Morgan. Esboniodd y sefyllfa a gofynnodd iddo am ei farn. Daeth yr ateb, a'r hyn a awgrymai Morgan ydoedd y dylid rhoi y baton yng ngofal swyddog o'r côr, y Trysorydd e.e. ac na fyddai'n deg i'r arweinydd ei gadw, dim ond ei ddefnyddio ar achlysuron arbennig. Wedi'r cyfan gallai'r côr newid arweinydd, a chan hwnnw y byddai'r hawl i ddefnyddio'r baton wedyn.

Hysbyswyd William Jones o hyn, ond nid oedd yn barod i ildio modfedd, ac nid oedd ychwaith yn fodlon i dderbyn cyfaddawd, sef awgrym un aelod y dylid arddangos y baton yn Siambr y Cyngor yn yr Institiwt. Gwrthododd drafod y mater ymhellach, a mynnodd mai ei faton ef ydoedd ac nid oedd am ollwng ei afael ynddo.

Gan mor ystyfnig oedd William Jones, penderfynodd y côr fynd i gyfraith yn Ionawr, 1891, a chynhaliwyd yr achos yn llys y mân ddyledion gyda'r Barnwr Horatio Lloyd wrth y llyw. Ymddangosodd y bargyfreithiwr J. Bryn Roberts A.S. ar ran aelodau'r côr a'r bargyfreithiwr Honoratius Lloyd ar ran y diffynyddion William a David Jones. Dadl yr olaf oedd mai'r drefn Eisteddfodol arferol oedd mai aelodau'r côr a fyddai'n rhannu'r wobr ariannol, ond mai yr arweinydd a dderbyniai y cwpan, y darian, neu yn yr achos hwn y baton. Gan i'w gôr ei ennill ddwywaith, yna ef oedd gan yr hawl arno, ef a neb arall. Anghytunai Bryn Roberts gan ddweud bod rheolau'r gystadleuaeth arbennig hon yn ei gwneud yn berffaith glir mai'r côr buddugol oedd i gael y baton, yn hytrach na'r arweinydd, h.y. gwobr ariannol o £50 ynghyd â'r baton aur i'r côr buddugol.

Côr Caernarfon yn Lerpwl yn 1913.
Côr Caernarfon yn Lerpwl yn 1913
Fel yr âi'r achos ymlaen a rhai o'r ddwy ochr yn tystiolaethu, daeth yn amlwg fod yno rwyg mawr rhwng mwyafrif aelodau'r côr a'u harweinydd. Er iddo fod yr un mor ystyfnig, cadwodd William Jones ei urddas, tra bodlonai Jones y Gas a'i gyfeillion ar boeri sen ar eu gwrthwynebydd bob cyfle gawsant. Roedd y Barnwr, yn ôl y Wasg, yn edrych fel pe bai yn mwynhau y gwrthdaro, ond yn y diwedd, arno ef y disgynnodd y dasg o ddyfarnu o blaid un ochr neu'r llall.

Dau ddewis oedd ganddo, ochri o blaid yr hyn a ystyrid yn arferiad Eisteddfodol neu fynd yn ôl geiriad y rheol ar gyfer y gystadleuaeth. Ac, wrth gwrs, roedd Jones y Gas eisoes wedi cyflwyno iddo lythyr William Pritchard Morgan, sef y sawl a gyflwynodd y baton i'r Eisteddfod. Cymerodd y Barnwr rai dyddiau i ddod i benderfyniad, a dyma ydoedd "Eiddo holl aelodau'r côr gan gynnwys eu harweinydd oedd y baton a dylid ei werthu a rhannu'r arian yn gyfartal rhyngddynt."

Roedd hyn yn sioc i rai ar y ddwy ochr, ond rhaid oedd ufuddau i ddyfarniad y Barnwr. Felly, aed ati yn ddiymdroi i drefnu arwerthiant a chynhaliwyd un yn Neuadd y Farchnad, Stryd y Plas, ddechrau Chwefror, 1891. Ymgasglodd cannoedd ynghyd a chynigiodd cynrychiolydd ar ran y côr i fyny hyd at £48, ond gwerthwyd y baton yn y diwedd i un a ddisgrifiai ei hun fel gôr busnes o Abertawe am £50. Roedd William Jones yno hefyd, ond ni chododd ei law i wneud cynnig.

Yn ddiweddarach, daethpwyd i wybod mai aelod o Bwyllgor Gwaith, Eisteddfod Genedaethol Abertawe oedd y gŵr busnes, ac mai gweithredu ar ran y pwyllgor ydoedd. Tybed, pe byddai'r aelodau o Gôr Caernarfon yn gwybod hynny ar y pryd, a fuasant wedi codi yn ei erbyn, er ceisio cadw y baton yn nhre Caernarfon?

Cadwodd yr arwerthwyr £4 o'r pris a gafwyd am y baton, gan adael £46 i'w rannu, ond gan fod y costau cyfreithiol yn £80 bu raid i'r arweinydd a holl aelodau'r côr fynd i'w pocedi i ddod o hyd i'r £34 arall i wneud i fyny'r gwahaniaeth.

Deallwyd wedyn bod Eisteddfod Abertawe yn cynnig y baton aur yng nghystadleuaeth y corau, a byddai gan arweinydd y côr buddugol yr hawl i'w gadw. Penderfynodd Côr Caernarfon gystadlu o dan arweinydd arall ac fe'i gosodwyd yn ail i Gôr Llanelli, gyda Mr. R.C. Jenkins yn ennill y baton.

© T. M. Hughes 2013