Caernarfon Ddoe/Caernarfon's Yesterdays header



BRENIN Y CAPTEINIAID

Yn ystod y cyfnod y bu Caernarfon yn borthladd o bwys, prin fod neb o'i meibion a ddewisodd yrfa forwrol wedi cyrraedd yr uchelfannau a gyrhaeddwyd gan un a aned yn fab i goetsmon, yn rhif 23, Pool Hill, ar Awst 13, 1845.

Yn ôl Cyfrifiad 1851, roedd gan Griffith a Margaret Pritchard bedwar o blant, tair o ferched ac un mab, John. Ef oedd eu hail blentyn ac addysgwyd ef yn yr Ysgol Rad (National School) o dan y prifathro, Mr. Foster. Cafodd hyfforddiant pellach mewn Morwriaeth (Navigation) gan gyn forwr, sef Capten Robert Morris a gadwai ysgol yn Pool Side, ac yn 13 oed aeth John Pritchard i'r môr fel Cabin Boy ac i lanw'r swydd o fod yn gogydd ar fwrdd llong. Buan y dysgodd grefft morwr ac astudiodd ar gyfer dyrchafu ei hun yn ei ddewis alwadigaeth. Yn 1868 enillodd dystysgrif Second Mate ac yn 1870, un First Mate Yna, yn y flwyddyn 1875, chwe mis cyn cyrraedd ei 30 oed, llwyddodd yn yr arholiad a'i gwnâi yn gymwys i fod yn Gapten ar ei long ei hun.

Wedi iddo gael ei ddyrchafu'n Gapten, byr a fu cysylltiad John Pritchard â Phorthladd Caernarfon, ac yn ystod y cyfnod hwnnw priododd â chwaer D.T. Edwards, a gadwai'r Drum Inn, yn Stryd y Farchnad, (yr adeilad agosaf at Glwb y Ceidwadwyr). Ni lwyddwyd i ddod o hyd i enw bedydd ei wraig nag yn wir fanylion am y briodas, ond gwyddys i John Pritchard fod yn Gapten ar ddwy long a gofrestwyd yng Nghaernarfon, sef y Prince of Wales a'r Sybil Wynn. Fodd bynnag, gwyddys i sicrwydd fod ganddo ddigon o arian i brynu cyfranddaliadau yn y Sybil Wynn, a hyd yn oed wedi iddo adael y dref, dengys Cofrestr Lloyds mai ei frawd-yng-nghyfraith, D.T. Edwards, oedd perchennog reolwr y Sybil Wynn am y blynyddoedd 1881, 1882 ac 1883. Yn ddiweddarach symudodd D.T. Edwards o Stryd y Farchnad i fyw yn Rock House, Heol Ddewi, a bu’n aelod o Gyngor Bwrdeisdref Caernarfon am gyfnod ac yn Faer y Dref yn 1913 a 1914. Bu farw yn 1915.

Yn 1879 cyflogwyd Capten Pritchard i ddod â stemar newydd 80 tunnell, y Princess of Wales, allan o Wallsend, lle cafodd ei hadeiladu gan C.S. Swan & Co. Hi oedd y stemar leiaf erioed i gael ei hadeiladu ac ychydig a feddyliai John Pritchard ar y pryd y byddai yn dychwelyd yno ymhen 28 i fod yn gyfrifol am stemar newydd arall, a'r tro hwnnw, y fwyaf yn y byd.

Flwyddyn yn ddiweddarach, ac yntau bellach yn 35 oed, ymunodd John Pritchard â chwmni enwog Cunard Line lle be am 14 blynedd yn gwasanaethu ar sawl llong fawr fel Mêt. Yn 1894 daeth cyfle iddo gael ei long ei hun a'i henw oedd y Samaria ac o hynny ymlaen hyd at ei umddeoliad yn 1910, bu'n Gapten ar o leiaf ddwsin o gawresau'r cerfnfor fel Carmania, Caronia, Campania, Etruria,Lucania a Saxonia.

Yn 1907 cafodd wŷs gan y cwmni i fynd i Wallsend i gymryd gofal o long newydd a'r enwocaf o longau'r cwmni yn ei dydd - Y Mauretania.
Capt. Pritchard ar fwrdd Y Mauretania
Roedd y stemar hon dros 331 o weithiau yn drymach na'r Princess of Wales a stemiodd allan o Wallsend gyda Capten Pritchard ar ei bwrdd.

Anodd yn wir yw dychmygu ei maint. I ofalu am y llu teithwyr a dyrrai i fwynhau moethusrwydd y llong, roedd angen dros 800 o staff, yn cynnwys 70 o forwyr, 366 o staff perianyddol a 376 o stiwardiaid ac eraill yn gofalu am anghenion y teithwyr. 812 i gyd ac un ohonynt, yn gapten ar y gweddill. Capten Pritchard o Benllyn Caernarfon, a aeth i'r môr fel Cabin Boy yn 13 oed bron hanner canrif ynghynt.

Yn ystod y 30 mlynedd y bu ar lyfrau'r Cunard fe'i hanrydeddwyd ddwywaith am ei ddewrdedd. Y tro cyntaf oedd yn 1881, ac yntau yn swyddog ar y Samaria, roedd y llong yn croesi'r Iwerydd pan ganfuwyd sgwner o Gymru ar fin suddo. Anfonodd y Capten gwch achub yng ngofal John Pritchard ac er garwed oedd y môr llwyddodd i achub pob aelod o griw'r sgwner. Gwrhydri a oedd yn haeddu cydnabyddiaeth ac fe dderbiniodd John Pritchard fedal arian y Royal Humane Society. Yr eildro oedd yn 1908, ac yntau ar ei ffordd adref yn y Mauretania rhoes orchymyn i newid cwrs a mynd i achub criw Barc Americanaidd a oedd yn yr un picil. Daeth yr Arlywydd Roosevelt i wybod am yr hyn a wnaeth Capten llong fwya'r byd, a threfnodd yntau i Is-Gennad yr U.D.A, yn Lerpwl i gyflwyno tystysgrif iddo ynghyd â phâr o finociwlar. Stampiwyd cofnod o werthfawrogiad llywodraeth America ar ei Master's Certificate.

Wrth ddychwelyd adref o Efrog Newydd yn 1907, bu iddo gymryd rhan mewn digwyddiad hanesyddol. Roedd sianel newydd, 7 milltir o hyd, wedi cael ei thorri a fyddai yn galluogi'r harbwr i dderbyn llongau o fwy o faint ac ar yr un pryd dorri 5 milltir oddi ar y siwrnai. Y Caronia yng ngofal Capten Pritchard a gafodd y fraint o fod y llong gyntaf i fynd trwy'r New Ambrose Channel fel y'i gelwir.

Er y sylw a gawsai, dyn diymhongar ydoedd.
R.M.S. Mauretania
Pan laniodd y Mauretania yn Efrog Newydd am y tro cyntaf. Roedd yr harbwr yn ferw o ddynion papur newydd ac roeddynt oll am holi'r Capten. Ond gwrthododd â rhoi cyfweliad iddynt gan ddweud ei fod yn rhy brysur ac atgoffodd hwynt o'r cyfrifoldeb oedd ar ei ysgwyddau.

Fodd bynnag, roedd un gohebydd a oedd yn fwy beiddgar na'r gweddill ac apeliodd ef at y capten fel a ganlyn: "Captain Pritchard from Caernarfon, North Wales, the American Public are anxious to hear from you. Can you say something they will appreciate?" Atebodd yntau ar ei union "You can tell them that I have worked for the Cunard line for nearly 30 years and that the cap I wore then still fits me." Roedd y gohebydd wedi cael digon o ddefnydd ar gyfer ei erthygl a thrannoeth ymddangosodd colofnau lawer yn y papurau newydd o dan penawdau fel "Some Captain and some ship."

Lai na deunaw mis yn ddiweddarach, ym mis Ionawr, 1909, derbyniodd John Pritchard yr anrhydedd uchaf a allai cwmni Cunard ei roi iddo trwy ei benodi yn Commodore of the Fleet. Fel arwydd o'r statws newydd hwn byddai baner neulltuol gydag arwyddlun y cwmni yn cael ei chwifio ar ei long.

Roedd yr hogyn o Gaernarfon bron yn 63 oed a buasid yn tybio ei fod bellach wedi cyrraedd pinacl ei yrfa, ond roedd yna un anrhydedd eto'n ei aros. Ym mis Medi 1909, fe dorrodd y Mauretania y record am groesi Môr Iwerydd gyda chyflymder o 26.06 milltir fôr yr awr ac ni thorrid y record hon tan y flwyddyn 1929, 7 mlynedd ar ôl ei farw.

Ymddeolodd yn 1910, bu farw yn Meols, Swydd Gaer ar Ionawr 29. 1922 a chladdwyd ef ym mynwent West Derby, Lerpwl ar Chwefror 3. Roedd yno gynrychiolaeth gref o'r frawdoliaeth forwrol a'e prif alarwr oedd ei fab Capten Wm. G. Pritchard, a chafwyd torch o flodau gan ei ail wraig a Leonard a Keith. Roedd John Pritchard yn ŵr rhyfeddol ac yn llawn haeddu'r deyrnged a roes yr Herald iddo ar achlysur ei farwolaeth sef - Brenin y Capteiniaid.

© T. M. Hughes 2010