Caernarfon Ddoe/Caernarfon's Yesterdays header



OES AUR BYSUS BACH Y WLAD

A ninnau bellach bron cefnu ar ddegawd cyntaf y mileniwm, mae'n anodd credu fel mae trafnidiaeth ar ein ffyrdd wedi datblygu dros y ganrif ddiwethaf. Trafaelio'n anaml mewn bysus yn cael eu tynnu gan geffylau y byddai trigolion Caernarfon a'r cylch yn negawd cyntaf y ganrif flaenorol a bu raid disgwyl tan 1909 cyn gweld bws modur ar ein heolydd.

Daeth y bws cyntaf i sir Gaernarfon yn y flwyddyn honno, pan gychwynnwyd gwasanaeth cario teithwyr rhwng Caernarfon a Dinas Dinlle ac nid yw yn anodd dychmygu'r cyffro oedd yma pan ymddangosodd y ddyfais newydd hon.
Bysus cynnar, 'solid tyre'
Oedolion a phlant yn rhyfeddu o weld cerbyd yn tramwyo trwy'r strydoedd a heb geffylau yn ei dynnu! Yna, yn ddiweddarach ar y flwyddyn, defnyddiwyd y bws hwn i drafaelio'n ddyddiol rhwng y dref a phentref Llanaelhaearn ac ar ddiwrnod marchnad ym Mhwllheli byddai yn cario yn ei flaen hyd at y dref honno ac yn dychwelyd i Gaernarfon gyda'r hwyr.

Buan y dilynwyd y gwasanaeth hwn gan gwmnïau bychain eraill. Rhwng y blynyddoedd 1909 a dechrau'r Rhyfel Mawr yn 1914, cafwyd gwasanaethau rheolaidd yn rhedeg o bentrefi fel Rhostryfan, Nantlle a Phenygroes i Gaernarfon ac yn ôl, er mawr hwylustod i'r pentrefwyr i ddod i'r dref i siopa ac i'r rhai a oedd ar eu mantais, sef pobl busnes tref. Caernarfon. Pan dorrodd y rhyfel allan yn 1914, fodd bynnag, daeth yn fwy anodd cael cyflenwad o betrol i redeg y gwasanaethau hyn ac ni chaniatawyd gwasanaeth bws i bentrefi lle roedd eisoes wasanaeth trenau yn bodoli.

Cyflymder y bysus cynnar hyn oedd rhwng 6 a 10 milltir yr awr a chan aros felly trwy gyfnod y rhyfel. Er hynny, dysgwyd mwy ar sut i wella effeithiolrwydd y cerbydau modur yn ystod y rhyfel a chafodd llawer iawn o filwyr eu hyfforddi i'w gyrru ac i drin y peiriannau. Mae enghreifftiau o rai o rhai hyn yn dychwelyd adref ac yn cael swyddi i yrru bysus, faniau a cherbydau eraill. Roedd llawer iawn o gyfleon ar gael i yrwyr profiadol yn y blynyddoedd a ddilynodd y rhyfel, gyda'r canlyniad i lu o gwmnïoedd bysus bychain gael eu sefydlu.

Nid oedd gan y cwmnïoedd hyn amserlen penodol, fodd bynnag, ac ni ellid dibynnu arnynt petai rhywun yn un o'r pentrefi am ddal trên, er enghraifft. Ni fyddant yn cychwyn hyd nes bod ganddynt ddigon o deithwyr i wneud y siwrnai yn broffidiol, ond er hyn, roedd y cyhoedd yn gwerthfawrogi'r gwasanaeth ac roedd y bysus yn rhwydd lawn, at ei gilydd. Yr oedd modd, hefyd, i ddefnyddio bws i gludo parseli ac i wneud gwaith a gysylltir, fel rheol, â'r Swyddfa Bost.

Yn ystod y 1920'au ac ugeiniau lawer o gwmnïoedd bysus eisoes wedi eu sefydlu a mwy nag un cwmni yn teithio ar hyd yr un ffordd, fe'u gorfodwyd i lynu at amserlen fel na byddai dau fws yn perthyn i wahanol gwmni yn cyrraedd arosfa ar yr un adeg a daeth gwell trefn ar y gwasanaethau. Erbyn hynny, roedd rhai o'r cwmnïoedd yn galw eu hunain yn ôl lliwiau eu bysys a'r rhai mwyaf adnabyddus yn y cylch yma oedd Caernarvon Red, Bangor Blue, a Bethesda Grey, ond nid felly'r cyfan ohonynt. Galwai rhai ei cwmni yn ôl yr ardal a wasanaethir ganddynt e.e. Peris Motors ayyb.

Ond roedd eraill yn fwy dyfeisgar. Penderfynodd perchenogion un cwmni ei alw yn U.N.U. h.y. math o dalfyriad o'r geiriau Saesneg You need us, a'r hyn a wnaeth cwmni arall mewn cystadleuaeth â nhw oedd galw'r cwmni hwnnw yn I.N.U. sef I need you. Enghraifft berffaith o'r gystadleuaeth finiog a fodolai ymysg y cwmnïoedd.

Y drefn oedd bod bob cwmni yn cael trwydded
Grŵp o fysus o gwmpas 1922
i wasanaethu rhwng trefydd a phentrefydd penodedig ac nad oedd ganddynt yr hawl i chwilio am fusnes ar diriogaeth cwmni arall. Felly, os byddai cwmni am roi'r gorau i wasanaethu roedd ganddo'r hawl i werthu i gwmni arall ac, yn ystod ail chwarter yr ugeinfed ganrif, fe werthodd cymaint â 30 o gwmnïoedd yng Ngogledd Cymru i'r cwmni mawr o Loegr, Crosville, ond mae rhai o'r cwmnïoedd bychain yn dal i wasanaethu hyd heddiw.

Sefydlodd Crosville bedair canolfan yn y sir sef yng Nghyffordd Llandudno, Bangor, Caernarfon a Phwllheli ac oddi yno y rhedai ei gwasanaethau. Roedd Caernarfon yn ganolfan brysur iawn gyda gweithlu niferus o Yrwyr, Gwerthwyr Tocynnau, Arolygwyr Tocynnau, Peirianwyr, Glanhawyr, Rheolwyr, Clercod ayyb.

O'r Maes y cychwynnai ac y dychwelai'r bysus o'u hamrywiol deithiau a phwy a allai anghofio y torfeydd oedd yno ar Nos Sadyrnau, hanner can mlynedd a mwy yn ôl. Maddeued un sylw personol gennyf. Digwyddodd rhywdro yn ystod haf 1949 pan oeddwn i a dau gyfaill yn sefyll ar gornel y Maes, lle mae Pound Stretcher heddiw, ac am 9 o'r gloch ar Nos Sadwrn, dechreuasom gyfri faint o fysus a adawodd hyd at ymadawiad y bws olaf am 10.10pm. Roedd y cyfan ohonynt a'u seddau yn llawn a chyda llu mawr o'r teithwyr yn gorfod sefyll. Wnaethom ni ddim cyfri faint ohonynt oedd yn single deckers na'n double deckers, ond cofiaf faint oedd nifer y bysus hyd heddiw. A'r ateb oedd 78.

O ystyried pa mor lawn oeddynt, nid oes gennyf ofn dweud bod y cyfartaledd ar bob bws yn sicr o fod beth bynnag yn 50. Gwnewch y swm 78 x 50 = 3,900. Ie, y cyfnod yn dilyn yr Ail Ryfel Byd a chanol yr ugeinfed ganrif oedd oes aur Bysus Bach y Wlad.

© T. M. Hughes 2010