Caernarfon Ddoe/Caernarfon's Yesterdays header



Croeso i

CAERNARFON DDOE

Gwefan yw Caernarfon Ddoe sy'n gyflenwol i Carnarvon Traders, ac yn cynnwys gwaith yr haneswr lleol nodedig, Thomas Meirion Hughes.

Dros y blynyddoedd mae Meirion wedi ysgrifennu llawer am Dref Gaernarfon, ei dref enedigol, y rhan fwyaf yn cael eu cyhoeddi mewn cylchgronau a phapurau newydd ledled Gogledd Cymru. Gobeithir gallwn gyhoeddi nifer o'r erthyglau hyn ar Caernarfon Ddoe, y tro cyntaf iddynt ymddangos ar y we.

Yn ogystal a'r erthyglau, mae Meirion wedi cyhoeddi pump llyfr:

FFRWYDRIAD Y POWDWR OIL
Hanes ffrwydriad nitro-glycerine yng Nghwm y Glo ym mis Mehefin 1869.

Ychydig fiseodd wedyn cyhoeddwyd fersiwn Saesneg:

DEATH BLAST IN SNOWDONIA

Cyhoeddwyd y tri llyfr nesaf mewn cyfres ddwyieithog o'r enw CAERNARFON DDOE/CAERNARFON'S YESTERDAYS, a phenderfynwyd defnyddio'r enw i'r wefan yma er mwyn parhad.

Y COLERA A'R GRONFA DDWR NEWYDD/THE CHOLERA AND THE NEW WATER SUPPLY
Hanes haint y colera yng Nghaernarfon yn 1866, gyda'r canlyniad fod system dwr fres newydd wedi cael ei sefydlu yn y dref.

Y FFERIAU I FON/FERRIES TO ANGLESEY
Golwg ar hanes y fferiau a fu yn teithio rhwng Caernarfon a Sir Fon dros y blynyddoedd.

Y CAP A'R FANER DDU/THE BLACK CAP AND FLAG
Hanes dienyddio yng ngharchardai Biwmares a Chaernarfon.

Roedd Meirion yn dal i fod yn brysur yn ymchwilio ac ysgrifennu tan yn eithaf diweddar, ond trist i ddweud, bu farw ym mis Gorffenaf 2017. Yr oedd yn bleser gennym fedru cychwyn y sioe a darn newydd sbon o'r enw "Y Sioe Enfawr," sydd yn adrodd hanes ymweliad yr enwog Buffalo Bill i'r Dref ym 1904.

Hefyd, mae'n rhaid cynnig diolch mawr i Geraint Roberts am dreilio cryn amser yn helpu gyda'r ymchwil ar gyfer rhai o'r erthyglau.