Caernarfon Ddoe/Caernarfon's Yesterdays header



HYFFORDDWRAIG MEWN MORWRIAETH

Ganed Ellen Francis yn Amlwch, Môn, yn y flwyddyn 1810, yn ferch i'r Capten William Francis. Bu ef yn hwylio'r cefnfor am flynyddoedd lawer cyn rhoi'r gorau i'r gwaith hwnnw yn 1814, yn ystod y rhyfel yn erbyn y Ffrancwyr. Roedd yn gyfnod hynod beryglus gan y byddai'r gelyn yn ymosod ar lawer o longau masnach Prydain, yn eu hysbeilio a chymryd y criw yn garcharorion rhyfel. Gydag Ellen yn ddim ond pedair oed ar y pryd, fe berswadodd ei mam ei gŵr i chwilio am waith ar y lan ac fe benderfynodd yntau agor ysgol i gynnal hyfforddiant mewn morwriaeth (navigation) i fechgyn fanc oedd a'u bryd ar yrfa forwrol.

Darlun o Ellen Edwards gan William Roos, 1859. © Gwynedd Archives Service
Darlun o Ellen Edwards gan William Roos, 1859. © Gwynedd Archives Service
Profodd y fenter hon yn llwyddiannus ac yn fuan iawn ystyrid yr ysgol yn un o'r rhai gorau yng Ngogledd Cymru, gyda nifer y disgyblion yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn. Rhoes y Capten yr un hyfforddiant i'w blant ei hun a daethant hwythau yn hyddysg yn y pynciau Mathemateg a Morwriaeth.

Fel y cynyddai nifer y myfyrwyr golygai hyn na fyddai raid iddo chwilio am gynorthwy-ydd o'r tu allan i'r teulu a chan fod ganddo fab oedd yn anabl, penderfynodd roi'r swydd iddo ef. Nid oedd ganddo le i gynorthwy-ydd arall yn yr ysgol yn Amlwch a gwyddai bod galw mawr am y math yma o ysgol mewn porthladdoedd eraill yng Ngogledd Cymru.

Roedd Caernarfon yn borthladd o bwys yn y cylch a'r tebyg yw iddo deimlo bod angen y math yma o wasanaeth yno. Wyddom ni ddim i sicrwydd pa un ai ef a berswadiodd Ellen i ddod i Gaernarfon, ynteu ei syniad hi ydoedd. Ond damcaniaeth yw hynny a'r gwir yw i'r ferch ifanc, tua'r ugain oed, ddod i Gaernarfon. Ymgartrefodd yma ac agorodd ysgol breifat yn New Street i hyfforddi morwyr yn y pynciau hanfodol ar gyfer eu gyrfaoedd.

Yn ôl pob tystiolaeth, ni fu prinder myfyrwyr a buan y daeth yr ysgol yn boblogaidd, oherwydd ei gallu diamheuol fel athrawes i drosglwyddo gwybodaeth. Ceir prawf o hyn yng Nghyfrifiad 1841. A hithau bellach yn 30 oed, gwelir ei bod wedi galw am wasanaeth ei chwaer, Lidia Francis, 25 oed, i'w chynorthwyo a disgrifir y ddwy fel 'Schoolmistresses.' Yn yr un Cyfrifiad gwelir bod Ellen yn briod a chanddi un ferch wyth oed, Ellen Francis Edwards. Nid yw enw ei gŵr, Capten Owen Edwards, arno gan ei fod oddi cartref ar y môr ar ddyddiad y Cyfrifiad.

Yn y flwyddyn 1847, fodd bynnag, gyda chyhoeddi adroddiad a gomisiynwyd i edrych i mewn i addysg yng Nghymru, fe geisiwyd ei phardduo fel un nad oedd yn gymwys i redeg ysgol o'r fath. Dau ddyn yn benodol oedd yn gyfrifol am hyn, Y Parch Thomas Thomas, Ficer, Llanbeblig, a James Foster, prifathro yr Ysgol Rad (National School). Rhan o'r cyhuddiad oedd 'All the navigation that has been learnt here as a science has been taught by an old woman of Carnarvon.' Haerllyg ynte? A hithau yn ddim ond 37 oed. Un gred, gan hanesydd nid anenwog, yw mai'r hyn oedd y tu ôl i'r datganiad cwbl annheg hwn oedd atgasedd James Foster, fel Eglwyswr a Thori rhonc, tuag at ddaliadau Rhyddfrydol ac anghydffurfiol William Francis. Efallai bod sail i hyn gan i'r adroddiad gyfeirio at Ellen Edwards, nid yn unig fel 'old woman' ond fel 'Baptist' hefyd. Felly does ryfedd i'r adroddiad hwnnw ddod i gael ei adnabod fel 'Brad y Llyfrau Gleision.'

Byr fu dylanwad y cyhuddiad ar waith yr ysgol, fodd bynnag, oherwydd daeth amryw o ddynion dylanwadol iawn i achub cam Ellen Edwards, rhai ohonynt yn gapteiniaid llongau ac wedi eu dysgu ganddi, heb sôn am athro ysgol arall o'r dref, cynghorydd ac awdur y llyfr hanes 'Sir a Thref Caernarfon,' John Wynne. Mynd o nerth i nerth wnaeth llwyddiant yr ysgol fel y mae sawl adroddiad yn y Carnarvon and Denbigh Herald o'r 1850au yn profi, gyda chymaint â 30 a mwy yn pasio'u harholiadau i fod yn gapten neu fêt bob blwyddyn.

Priododd ei merch Ellen Francis Edwards, yn Eglwys Llanbeblig yn 1853. Morwr oedd ei gŵr hithau, Capten John Evans, a daliodd hi i weithio i'w mam fel athrawes gynorthwyol i ddechrau ac yna'n raddol gymryd drosodd yr awennau.

Saith mlynedd yn ddiweddarach, daeth profedigaeth lem i'r teulu wrth i long Capten Owen Edwards, y St. Patrick, mewn storm gael ei hyrddio ar draeth Colwyn. Golchwyd y Capted dros y bwrdd a bu farw yn 57 oed ar Ionawr 21 1860.

Yn y flwyddyn 1880, ac Ellen Edwards wedi cyrraedd oed yr addewid, cynigiodd Sir Llewelyn Turner, Cyn Faer y dref, mewn cyfarfod o Ymddiriedolaeth yr Harbwr, y dylid anfon llythyr i'r Llywodraeth yn Llundain yn argymell iddi dderbyn pensiwn am ei gwaith clodwiw am hanner can mlynedd. Ni lwyddwyd i sicrhau pensiwn, ond fe dderbyniodd un taliad o £75 o gronfa'r 'Royal Bounty.'

Bu farw Ellen Edwards yn ei chartref yn Stryd y Degwm, Caernarfon, ar Dachwedd 24, 1889 yn 79 mlwydd oed, a chladdwyd hi ym mynwent Llanbeblig ar y 27ain. Fel y disgwylid roedd cynrychiolaeth deilwng o gapteiniaid a morwyr o bob gradd yn ei chynhebrwng ac mae'r hir-a-thoddaid hwn sydd ar ei charreg fedd yn dweud y cyfan amdani.

Distaw weryd Mrs. Edwards dirion
A gywir gerir, gwraig o ragorion.
Athrawes oedd i luoedd o lewion,
Y rhai uwch heli wnânt eu gorchwylion.
Urddas gaed trwy addysg hon. - Ni phaid llu
Môr ei mawrygu tra murmur eigion.

MADOG


© T. M. Hughes 2010