Caernarfon Ddoe/Caernarfon's Yesterdays header



GYDA'R FFIWSILWYR CYMREIG YN WATERLŴ

Gredech chi bod yna gyn Ffiwsilwr o'r Ail Ryfel Byd ac yn byw yn 16 Stryd Gelert, Caernarfon, sy'n gallu olrhain hanes ei deulu bump cenhedlaeth i'w hen hen daid a fu'n ymladd ym mrwydr Waterlŵ yn 1815?

Diolch i Mr. Tom Glyn Griffith, gallwn ddatgelu hanes Lewis Griffith, ei hen hen daid o Dal-y-Llyn, Meirionnydd a ymunodd â Chatrawd Y Ffiwsilwyr Cymreig yn 19 oed ar Ebrill 6. 1814. Deëllir bod y Brenin wedi rhoi gorchymyn i bob tref a phentref ym Mhrydain anfon dynion ifanc i'r fyddin ac roedd angen un o Dal-y-Llyn a gwnaed hynny trwy system "ballot," fel y'i gelwid, a chafodd un bachgen ifanc ei ddewis. Gan nad oedd yn gryf ei iechyd, torrodd i lawr i grio
Cyrnol Ellis
Cyrnol Ellis
a'r canlyniad fu i Lewis Griffith wirfoddoli i gymryd ei le. Ddwy flynedd cyn Brwydr Waterlŵ ac yntau yn aelod o'r Milisia cafodd ei anfon i'r Iwerddon ac yno y cyfarfu ag un a ddaeth yn wraig iddo. Yn enedigol o'r Alban a merch mewn ysgol breifat oedd Jane Drumble pan ddaethont i nabod ei gilydd gyntaf. Blodeuodd y garwriaeth a chawsant ganiatád gan Swyddog yn y fyddin i briodi cyn gadael am Wlad Belg i wynebu byddin Napoleon ar faes y gad. Nid oedd ei theulu am roi sêl eu bendith ar y briodas a thorrwyd pob cysylltiad rhyngddynt unwaith ac am byth.

Yn y papur newydd Cambrian News, dyddiedig Gwener, Mai 26. 1876 cyhoeddwyd atgofion Jane, neu Jenny fel y'i gelwid, o fod yng nghwmni ei gŵr ac un plentyn bach ar faes y gad am dridiau adeg Brwydr Waterlŵ. Efallai nad yw'r adroddiad yn hollol gywir mewn mannau, yn enwedig parthed ei hoedran pan gyfarfu â Lewis gyntaf yn Iwerddon tua 1812 yn ôl a ddywed a hogan ysgol 14 oed, ydoedd ar y pryd. Yn ôl ei charreg fedd ganed hi yn yr Alban yn y flwyddyn 1789 a fyddai yn ei gwneud yn 22 neu 23. Mae hi hefyd yn rhoi ei hoed adeg cyhoeddi'r ysgrif yn 1876 yn 85 a fyddai yn rhoi dyddiad ei geni yn 1790 neu 1791. Fodd bynnag, rhaid cofio ei bod yn trafod digwyddiadau 61 o flynyddoedd ar ôl brwydr Waterlŵ, a hithau ar y pryd mewn crwth oedran.

Ond, er hyn i gyd, nid oes le i amau nad yw y ffeithiau am y drafferth a gafodd i gael caniatád gwahanol swyddogion yn y fyddin i fynd gyda'i gŵr yr holl ffordd i Waterlŵ. Dywed iddynt adael Iwerddon am Bristol gyda llong ac oddi yno i Winchester lle, ar ôl dwy flynedd yn y Milisia yr ymunodd Lewis â'r 23rd Royal Welch Fusiliers ac mae dogfen filwrol yn profi mai ar Ebrill 6. 1814 oedd hynny.

Dwy waith bu bron iddi orfod gadael ei gŵr a dwy waith aeth gerbron swyddog o'r fyddin a llwyddo i gael gwyrdroi y penderfyniad hwnnw. Y tro diwethaf rhoddwyd canatád iddi aros gan un Cyrnol Ellis a laddwyd yn ddiweddarach ym Mrwydr Waterlŵ. Arhosodd gyda'u gŵr hyd nes y dechreuodd danio ar y gelyn a phryd hynny bu raid iddi ei adael.

Rhoddwyd hi ar ddeall bod Lewis wedi ei anafu yn ei ysgwydd ac wedi ei gludo i ysbyty, ond ni wyddai pa un nac ymhle. Treuliodd ddyddiau yn chwilio amdano ac o'r diwedd y plentyn bach wnaeth ei adnabod a gweiddi "Dadi, Dadi." Tynnwyd saith darn o shrapnel o'i ysgwydd ac roedd y bachgen bochgoch gynt yn llwyd fel lludw. Tra oedd Lewis yn gwella bu Jenny yn cario allan dyletswyddau megis nyrs a golchi dillad yn y gwersyll. Dyfynnir yn y Cambrian News rai sylwadau o'r hyn a gofiai o'r cyfnod hwnnw "Ni fum yn siarad gyda Wellington, ond bum yn bur agos ato. Roedd yn ddyn clyfar iawn, gyda thrwyn mawr. Gwelais Bonaparte sawl gwaith. Roedd 'Bonny' yn union fel ffermwr bychan.
Bedd Jenny Jones
Bedd Jenny Jones
Gwelais fraich Joseph Bonaparte wedi ei thorri ymaith ac wedi ei dwyn i Brussels, ac yna yn Ffrainc gwelais Louis XIII yn cael ei goroni. Ni chafodd fy ngŵr bensiwn gan mai am amser cyfyngedig y gwasanaethodd, ond derbyniodd £5 o 'Blood Money' a medal, ond cafodd honno ei dwyn."

Arhosodd Lewis yn y fyddin tan ddiwedd ei saith mlynedd o gytundeb ar Ebrill 6ed 1821 a dychwelodd y teulu bach i Gymru ac i Dal-y-Llyn lle cawsant rentu tŷ fferm o'r enw Cildydd, ond nid y nhw oedd yn ffermio'r tir. Cafodd Lewis waith mewn chwarel yng Nghorris ac yn 1837, ond ac yntau yn ddim ond 45 oed, lladdwyd ef mewn damwain yno gan adael Jenny yn weddw i ofalu am y plant. Symudodd hithau i fyw yn nes at ddau westy yn y pentref lle roedd hi'n cael ei chyflogi i wneud y gwaith golchi.

Bu'n weddw tan 1853 ac ail briododd â John Jones, Y Bowls, ond yn lle ysgafnhau y baich ariannol oedd arni, nid felly y troes pethau allan gan mai dyn diog oedd yn ôl pob tystiolaeth a bu raid iddi ddal i weithio'n galed i geisio cael dau ben llinyn ynghyd. Cyn diwedd ei hoes roedd hi'n byw gyda gwraig o'r enw Mary Griffith ac yn derbyn 5 swllt yr wythnos o Arian y Plwyf tuag at ei chadw. Fodd bynnag, pan fu farw yn 1884 rhoes un a alwodd ei hun yn gyfaill, garreg ar ei bedd yn cyfeirio at y ffaith iddi fod yn bresennol gyda'i gwr cyntaf ym Mrwydr Waterlŵ. Mae'n ddirgelwch pwy oedd y dyn hwn, ond mae rhai yn meddwl mai aelod o'i theulu cefnog ydoedd.

Wel, dyna hanes llygad-dyst o un a fu'n Waterlŵ ac yn wraig i filwr yn y Ffiwsilwyr Cymreig a fu'n ymladd gelyn mawr Prydain a'r ddechrau'r 19. ganrif. Rhyfedd meddwl bod gŵr o Gaernarfon a gor or ŵyr iddo wedi bod yn ymladd mewn rhyfel ganrif a chwarter yn ddiweddarach ac yn perthyn i'r un gatrawd, sef Y Ffiwsilwyr Brenhinol Gymreig. Anrhydeddwyd Y Ffiwsilwr T. Glyn Griffith ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, trwy gael ei ddewis i farstio i gynrychioli y 9fed Fataliwn yn y "Victory Parade" yn Llundain ar Fehefin 8fed 1946.

© T. M. Hughes 2010