HELYNT Y FANER
Fe'm hatgoffwyd yn ddiweddar o brotest gyffrous yn nhref Caernarfon a ddigwyddodd ar Ddydd ein Nawddsant, ar y 1af o Fawrth, 1932. Ar y pryd, doeddwn i ddim yn ddigon hen i gofio'r achlysur ac ymhen rhyw flwyddyn neu ddwy wedyn y deuthum i wybod amdano o enau fy rhieni.
Roedd Cymru'r 1930au yn wahanol iawn i'n Cymru ni heddiw ac yn enwedig felly mewn tref garsiwn fel Caernarfon, lle roedd y mwyafrif mawr yn ystyried eu hunain i fod yn Brydeinwyr yn gyntaf, er gwaetha'r ffaith mai Cymraeg oedd iaith y cartref,
|
Tŵr yr Eryr, cyn i'r polyn gael ei godi. © T. M. Hughes |
y stryd a'r siopau ac roedd pawb o'r plant yn yr ysgol elfennol yn dathlu trwy gynnal cyngerdd yn y bore ar Fawrth 1af a hanner diwrnod o wyliau yn y pnawn. Fe wisgem genhinen Bedr yn ein llabedi a chlywem yn aml y geiriau "Cymru am Byth," ond Saeson ac Americanwyr y sgrîn fawr oedd ein harwyr. Byddai fy nhad yn dweud yn aml mai dim ond dwywaith yn y flwyddyn y byddai llawer yn ystyried eu hunain yn Gymry a hynny ar yr wythnos gyntaf ym misoedd Mawrth ac Awst. Y naill adeg dathlu Gŵyl Ddewi a'r llall pan gynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol a'i enw ef arnynt oedd "Cymry am Bythefnos."
Oes felly oedd hi, ond newidiodd pethau yn araf bach ar ôl sefydlu Plaid Genedlaethol Cymru yn 1925 ym Mhwllheli ac agor swyddfa yng Nghaernarfon yn 1930. Er mai prin oedd yr aelodau ar y cychwyn, fe wnaeth yr arloeswyr hyn waith amhrisiadwy trwy annog pobl i fod yn fwy parod i gydnabod eu Cymreictod a gwarchod eu cenedl rhag unrhyw annhegwch.
Yr ymdeimlad o annhegwch hwn a fu'n gyfrifol am yr hyn a ddigwyddodd ar Fawrth 1af 1932. Derbyn llun gan yr hanesydd Mr. Keith Morris, o Dŵr yr Eryr, Castell Caernarfon a'm hysgogodd i groniclo'r hanes. Llun ydoedd o ddau bolyn i ddal baneri ac oddi tano y geiriau "New Flagpole" yn deitl. Roedd am wybod mwy o'r hanes ac yn gofyn pam oedd angen polyn newydd a beth oedd yr arwyddocâd? Cofiais innau beth o'r hanes fel y'i clywais gan fy rhieni a chysylltais â Mrs. Angharad Williams, Melin y Wig, Llys Gwyn, Caernarfon, gan y gwyddwn i'w thad, sef y diweddar Mr. J. E. Jones, cyn Ysgrifennydd Cyffredinol Y Blaid Genedlaethol, fod wedi chwarae rhan mewn gweithred o brotest
|
Codi'r polyn newydd. © K. Morris |
yn y castell ar Ddydd Gŵyl Ddewi, 1932. Yn llyfr ei thad "Tros Gymru" edrydd yr hanes yn llawn mewn pennod "Antur Tŵr yr Eryr."
Ar ŵyl Ddewi 1931, y sylwodd gyntaf mai Jac yr Undeb yn unig a chwifiau ar y Tŵr ac roedd amrhyw o aelodau Cangen Caernarfon o'r Blaid Genedlaethol yn teimlo fel yntau'n gryf y dylid gwneud rhywbeth i dynnu sylw'r awdurdod a oedd yn gyfrifol am y castell. Fel Trefnydd y Blaid ysgrifenodd lythyr at Mr. David Lloyd George A. S., a oedd hefyd yn Gwnstabl y Castell ac anfonodd yntau'r llythyr ymlaen i'r Weinyddiaeth Adeiladau. Derbyniodd ateb gan swyddog yn y Weinyddiaeth ac anfonodd ef ymlaen i Swyddfa'r Blaid. Ateb "haerllug a thrahaus" yn ôl J. E. Jones a chyhoeddodd ef yn y Wasg. Gofynnodd amryw o aelodau seneddol gwestiynnau ar y mater sawl tro gan alw am roi lle cydradd i'r Ddraig Goch. Ond 'Na' oedd ateb y gweinidog, Mr. Ormesby-Gore, bob tro, hyd yn oed ar ddiwrnod cyn Gŵyl Ddewi 1932. Cyhoeddwyd ei ateb olaf yn y Wasg ar Fawrth 1af gan gynddeiriogi llawer o Gymry.
Penderfynodd criw o bedwar weithredu'n uniongyrchol ac am 10 o'r gloch a'r fore'r ŵyl aeth J. E. Jones ei hun, wedi gwisgo fel beiciwr modur ac yn cario rwcsac, i'r castell a dilynwyd ef gan dri arall, sef E. V. Stanley Jones, cyfreithiwr ifanc o Gaernarfon, yn cymryd arno mynd â dau ymwelydd o gwmpas, sef oeddynt: W. R. P. George, nai yr enwog Lloyd George a Wil Roberts, Gwas Sifil o'r dref. Aethant i fyny i ben Tŵr yr Eryr a thynnu i lawr Jac yr Undeb a chodi Draig Goch enfawr, a fu'n llochesu yn y rwcsac, yn ei lle. Dechreuodd y pedwar ganu Hen Wlad fy Nhadau ac roedd pobl
|
J. E. Jones. © Mrs. A. Williams |
yn y dref yn curo dwylo o weld Y Ddraig yn chwifio o dŵr uchaf y castell.
Yn y diwedd bu raid galw'r Heddlu ac anfonwyd y pedwar o'r castell a thynnwyd i lawr Y Ddraig Goch ac ail godwyd Jac yr Undeb. Wedi cymryd enwau y pedwar gadawyd iddynt fynd heb ddwyn achos i'w herbyn. Roedd y brotest drosodd ym marn y rhai a ofalai am y castell, ond..... roedd mwy i ddod.
Yn ystod y pnawn hwnnw ac yn ddiarwybod i'r protestwyr cyntaf, daeth tua 20 o fyfyrwyr o Fangor i Gaernarfon dan arweiniad R. E. Jones, yn wreiddiol o Langernyw, ond a gofir wedyn fel ysgolfeistr Llanberis a chyn ymgeisydd y Blaid yn Etholaeth Arfon. Aethant hwythau i mewn i'r castell trwy dalu am docyn wrth Borth y Brenin ac, ar ôl edrych o'u cwmpas, anelu at Dŵr yr Eryr a chael, er eu mawr syndod, fod y ddôr wedi ei chloi. Yn ffodus, fodd bynnag, daethant ar draws agen saethu yn y mur ac aethant i mewn trwyddo ac i fyny Tŵr yr Eryr. Unwaith eto tynnwyd i lawr Jac yr Undeb a chodwyd eilwaith faner Cymru. Galwyd eto am gymorth yr Heddlu ac ar ôl cryn drafferth fe'u gyrrwyd hwythau o'r castell. Y tro hwn, fodd bynnag fe lwyddodd un ohonynt i wisgo Jac yr Undeb amdano dan ei ddillad ac aeth ag ef i Swyddfa'r Blaid.
Yn ddiweddarach anerchodd R. E. Jones ac eraill dyrfa ar y Maes ac roeddynt yn hynod feirniadol o agwedd y Llywodraeth a gwaeddwyd am losgi Jac yr Undeb. Prysurwyd i Swyddfa'r Blaid i'w nôl ac ymdrechwyd ei llosgi, ond gan i hynny brofi'n aflwyddiannus penderfynwyd ei rhwygo'n ddarnau a chadwyd sawl darn i gofio'r digwyddiad.
Diwrnod cyffrous! Er hynny, nid dyna ddiwedd "Antur Tŵr yr Eryr," Na! Dim o bell ffordd. Creodd agwedd ystyfnig y Llywodraeth gryn anniddigrwydd drwy Cymru gyfan a daliodd aelodau seneddol Cymreig i ofyn cwestiynnau yn y senedd ac roedd llawer o'u hetholwyr yn gandryll ac erbyn y flwyddyn ganlynol daeth yn hysbys bod y Llywodraeth wedi gwneud tro pedol. Ie, "Trech gwlad nag Arglwydd" yw'r ymadrodd sy'n dod i'r meddwl.
Y tebyg yw i'r Llywodraeth orfod plygu i ddymuniad y werin bobl o dan y fath bwysau gan rai mewn awdurdod yng Nghymru. Pa ran a chwaraeodd y Cyn Brif Weinidog Lloyd George, yn hyn ni wyddys, ond ef a fu flaenllaw yng ngweithgareddau Gŵyl Ddewi ar Fawrth 1af 1933. Cyn hynny roedd rheol newydd wedi ei gyhoeddi yn caniatáu i Faner Cymru gael ei chodi ar bolyn ochr yn ochr â Jac yr Undeb ar Dŵr yr Eryr. Mewn pwyllgor arbennig o'r Cyngor Tref dadleuodd
|
Darn o Faner yr Undeb. © T. M. Hughes |
J. E. Jones a Nefydd Jones, yn gryf 'dros gael cenedlaetholwr iawn i weinyddu'n y seremoni,' ond fe wrthwynebwyd hyn yn bendant ac yn ei lyfr "Tros Gymru" dywed J. E. i E. P. Evans, Prifathro'r Ysgol Sir, Rhyddfrydwr brwd a blaenor yn Engedi, ddatgan bod Lloyd George wedi rhoi gorchymyn nad oedd neb ond ef i gael codi'r Ddraig Goch yng ngwydd y tyrfaodd. Ond, fel y troes pethau allan nid felly y bu.
Yn y papur Saesneg lleol, fodd bynnag, cyhoeddwyd mai W. G. Williams, Maer y Dref, a gafodd y fraint o godi'r Ddraig Goch a Dirprwy Gwnstable y Castell, Charles A. Jones, C.B.E., cyfreithiwr lleol a Chlerc y Llys, a gododd Jac yr Undeb a hynny am 8 o'r gloch ar fore'r ŵyl. Aeth miloedd o Gymry i'r castell y diwrnod hwnnw ac yn ystod y bore a'r prynhawn buont yn canu ac yn gwrando ar ganeuon gwladgarol gan gorau lleol. Cafwyd bod Lloyd George ei hun wedi llunio'r geiriau ar gyfer un gân ac iddo gael ei blesio'n fawr gan y canu a fu arni. Roedd yn dri o'r gloch y pnawn pan gyrhaeddodd ef Orsaf Rheilffordd Caernarfon o Lundain ac aeth rhai i'w gyfarfod a'i hebrwng i'r castell, lle'r ymwisgodd yn lifrai Cwnstabl y Castell.
Yna, dechreuodd annerch y dorf fawr o dros fil a oedd yn cynnwys llu o blant ysgol. 'Undod' oedd bwrdwn araith gwladweinydd y tafod arian ar y Dydd Gŵyl Ddewi hanesyddol hwnnw, a phawb yn dal ar bob gair a ddôi o'i enau. Ei gyfarchiad cyntaf oedd "Y Maer, Maeres hen dref Caernarfon a chyd-wladwyr" ac roedd ymateb y dorf i hyn yn wresog a bloeddiodd y plant "Hwre." Dywedodd nad oedd wedi dod i Gaernarfon y diwrnod hwnnw i areithio iddynt, ond i ymuno â nhw mewn dathliad y tu fewn i furiau'r castell a adeiladwyd i lethu cenedl y Cymry. Castell a fwriadwyd i'n gormesu. Ar ŵyl Ddewi, fodd bynnag, anghofid yr hyn oedd yn ein rhannu fel plaid, sect neu enwadaeth ac roeddym yn genedl unedig. Croesawai hyn yn fawr, gan ei gymharu â'r Eisteddfod Genedlaethol lle roedd pawb yn gytun a'r gwahaniaethau barn ar faterion cenedlaethol fel addysg a chrefydd yn cael eu rhoi o'r neilltu tros yr ŵyl. Er lles cenedl y dylid cael dyddiau o'r fath!
Soniodd am yr iaith Gymraeg gan
|
Tŵr yr Eryr ar ôl i'r polyn gael i godi. Gwelir J. E. Jones yn sefyll o flaen y tŵr. © Mrs. A. Williams |
ddyfynnu ystadegau i godi'r galon, os yn gamarweiniol. Roedd saith gwaith mwy yn siarad yr iaith Gymraeg bryd hynny nag yn nyddiau Llywelyn Fawr ac Owain Glyndwr a phedair gwaith yn fwy nag yn nyddiau Goronwy Owain, a chan bwyntio at y plant, meddai "Ac fe gerrir ymlaen am genedlaethau gan y rhai hyn." Cyfeiriodd wedyn at yr iaith Saesneg gan ddweud ei bod yn cael ei siarad gan dreian o boblogaeth y byd ac o'r herwydd "Rydych chi yng Nghymru, wrth ddysgu dwy iaith, ar dir diogel."
Diweddodd ei araith trwy sôn fel yr oedd ef wedi dod o Lundain mewn saith awr a gofynnodd "Beth ddywedasai milwyr Iorwerth, oedd yn gwylio'r castell hwn, pe ddywedech hynny wrthynt? Ni fuasent yn coelio." Ymgais oedd hyn i egluro pa mor fychan oedd y byd mewn cymhariaeth a dyfynnodd englyn gan Robin Ddu Ddewin, bardd a oedd yn proffwydo chwe chanrif ynghynt y byddai dyn yn gallu ehedeg ymhen amser.
Codais, ymolchais ym Mân - cyn naw awr
Ciniawa'n Nghaer Leon,
Pryd gosber yn y Werddon
Prynhawn wrth dŵn mawn ym Môn.
Yr unig gyfeiriad at y brotest flwyddyn ynghynt oedd ar ddechrau'r araith, pan ddywedodd Lloyd George nad oedd yn erbyn brwydro - yr oedd wedi cymryd rhan mewn amryw frwydrau ac yn ôl pob tebyg, byddai'n cymryd rhan mewn brwydrau eraill. Chwarddodd y dorf ac aeth yntau ymlaen i bwysleisio pwrpas y dathlu sef Undod.
Diolchodd y Maer iddo am ei araith as ategwyd y diolch gan y Dirprwy Gwnstabl Charles A Jones a diweddwyd y cyfarfod trwy ganu'r ddwy anthem "Duw gadwo'r Brenin" a "Hen Wlad fy Nhadau."
Da fuasai gallu dweud bod ysbryd y diwrnod hwnnw wedi parhau, ond nid felly y bu. Nid oedd pob adeilad o bwys yn chwifio'r Ddraig Goch ar Ddydd Ein Nawddsant. Dyma ddyfyniad o "Triban Rhyddid" yn y flwyddyn 1935.
"Cofiwch Dŵr yr Eryr...............Ond eto, yr "Union Jack" a chwifir oddi ar y Clwb Rhyddfrydol yng Nghaernarfon, hyd yn oed ar Ddydd Gŵyl Ddewi, er i'r Blaid Genedlaethol apelio fod chwifio'r Ddraig Goch."
© T. M. Hughes 2010