HIL GERDD
Fuoch chi yn meddwl erioed sut le oedd yn ein tref ni, Caernarfon, yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed? Roedd hi'n oes galed, llawer iawn o dlodi, ac eto roedd rhai pobl i'w gweld yn llwyddo mewn busnes ac roedd galw am lechi o'r chwarelydd cyfagos yn sicrhau gwaith yn y porthladd i lwytho'r llongau, ac eraill yn mynd i'r môr i ennill eu tamaid ac i ledu eu gorwelion. Roedd yma adeiladwyr llongau yn cyflogi crefftwyr lleol a sawl ffowndri yn cynnig prentisiaeth ac yn cyflogi peiriannwyr profiadol i ateb y galwad am beiriannau, boileri, a.y.y.b.
Roedd amryw o longau diethr o bob rhan o'r byd yn dod yma, ac fel y buasech yn meddwl roedd tafarnau'r dref y brysur iawn. Tref y trigain tafarn oedd un enw a roed ar Gaernarfon. Felly hefyd rhai o'r tai lle'r arferai merched y stryd ymgynnull ac roedd llawer iawn o rheini hefyd. Ond rhaid inni beidio â pheintio darlun rhy ddu. Os oedd yma faswedd, roedd crefydd a diwylliant yn ffynnu yma yn ogystal. Enw arall ar y dref oedd 'Prifddinas yr inc' gan fod yma lu mawr o argraffwyr. Papurau newydd, cylchgronau enwadol, llyfrau crefyddol ac addysgiadol a.y.y.b.
Oedd roedd i'r gymdeithas ei ffaeleddau a'i rhinweddau. Ffaeleddau a oedd yn nodweddiadol o'r hyn a ddisgwyliech mewn unrhyw borthladd yn y byd, a rhinweddau a berthynai i'r Gymru wledig a Phiwritanaidd, ac am deulu o'r ail ddosbarth a godwyd yn y dref rwyf am sôn heno - y teulu Williams. Pedair cenhedlaeth o gerddorion a fu'n byw yma yn nhref Caernarfon.
Roedd y cyntaf ohonynt, John Williams, Y Gof, yn aelod gyda'r Wesleaid, a gwnaeth enw iddo'i hun yn y maes cyfansoddi, cyfansoddi tonau ar gyfer emynau, ac fe ddywedir i un dôn o'i eiddo fod yn hynod boblogaidd gyda'r enwad hwnnw. Fel cofi go iawn rhoes enw y stryd lle roedd o'n byw arni. Efallai bod rhai ohonoch wedi clywed am y dôn 'Pool Street,' ond ofnaf nad yw hi bellach yn y llyfr emynau, h.y. Llyfr Emynau'r Methodistiaid Calfinaidd a'r Wesleaid.
Mab iddo ef oedd Humphrey Williams, Oriadurwr, 6 Stryd y Llyn, ac fe ŵyr y rhai ohonoch sydd wedi darllen llyfr y diweddar Gwilym Arthur Jones 'Pobol Caernarfon ac Addolwyr Engedi,' ei fod yn cyfeirio at gyfraniad sylweddol Humphrey Williams fel arweinydd côr o Engedi - 'The Welsh Harmonics.'
Roedd gan Humphrey Williams dri mab, John, Robert a Howel, a fu pan oeddynt yn ifanc yn diddori cynulleidfaon lawer ledled y wlad gyda'u doniau cerddorol.
Bu Ann, gwraig Humphrey Williams, farw yn 44 oed ar Ragfyr 2ed. 1866 ac fe'i claddwyd drannoeth, Rhagfyr 3ydd. ym mynwent Llanbeblig. Roedd hyn yn ystod cyfnod pan fu farw tua chant o bobl y dref o'r Colera, ond ni lwyddwyd i ddod o hyd i brawf mai y clefyd hwnnw oedd achos ei marwolaeth hi, er bod 9 o bobl wedi eu claddu yn y fynwent ar yr un diwrnod a'r mwyafrif ohonynt yn ddioddefwyr o'r Colera.
Rhwng 10 a 6 oed oedd y plant pan fu farw eu mam, ond er mawr glod i'w tad daeth y tri brawd i fri fel unawdwyr, offerynwyr ac arweinyddion y gân, Robert oedd fwyaf enwog fel unawdydd, Howel yn bencampwr ar y ffidil ac ymddangosodd John o flaen cynulleidfa droeon fel unawdydd, offerynnwr ac arweinydd.
Cafodd Howel hyfforddiant ar ganu'r ffidil yn Lerpwl ac yn Eisteddfod Caernarfon 1877, yr eisteddfod gyntaf i gael ei chynnal yn y Pafiliwn, ef a gafodd y fraint o fod yn arweinydd y gerddorfa, a hynny pan oedd ond 16 oed. Cyflwynwyd medal aur iddo fel gwerthfawrogiad o'i berfformiad, a chafodd dynnu ei lun yng nghwmni beirniaid a phrif artistiaid yr Eisteddfod honno. Roedd ganddo hefyd lais soniarus a phan oedd yn ifanc iawn arferai ganu alto mewn corau lleol, ac yn ddiweddarach bu yntau, fel ei dad a'i frawd, John, yn arwain corau.
Gallasai fod wedi gwneud enw iddo'i hun fel cerddor, ond fel llawer o hogiau ifanc y dref yr adeg honno, rhoes ei fryd ar fynd i'r môr. Hwyliodd fel prentis ar y 'Bell of Arvon' (Capt. Jones), ond wedi cyrraedd San Fransisco, gadawodd y llong. Ni wyddys yn hollol beth oedd ei fwriad ar y pryd. Chwilio am waith, efallai, a setlo i lawr yn yr Unol Daleithiau. Mae hyn yn ddirgelwch, ond yr hyn sy'n ffaith yw iddo aros yno am gyfnod o ddwy neu dair blynedd, ac mai Richard Jones, swyddog ar y llong, 'King Cedrig,' (Capten D. Elias, o Gaernarfon) a ddaeth ar ei draws yn San Fransisco. Trwy garedigrwydd y Capten cafodd Howel ei wneud yn aelod o'r criw fel A.B. Un noswaith, a'r llong yn aros am lwyth yn Queenstown, dechreuodd Richard Jones ganu i gyfeiliant Howel ar y ffidil, a chawsant gymeradwyaeth fyddarol gan lu o forwyr a pherchnogion iotiau a oedd wedi eu hangori gerllaw.
Wedi dychwelyd adref i Gaernarfon cafodd waith ar amryw o longau lleol a phenderfynodd fynd ati o ddifri i sefyll arholiadau morwrol. Bu'n llwyddiannus ac fel swyddog ar un o longau'r Elder Dempster Co. Lerpwl. y 'Merrimac,' gwenodd ffawd arno ar Ebrill 2ail. 1895. Gwelwyd llong yn ymddangos fel pe bai ar fin suddo, a threfnodd Capten Morgan, y 'Merrimac,' i Howel fynd draw ati mewn cwch, a phan ddychwelodd adroddodd wrth y capten nad oedd neb ar y llong ac roedd o'r farn mai y cargo oedd wedi symud. Cytunodd y capten iddo ef ynghyd â'r saer llongau fynd i wneud archwiliad pellach a dyna a wnaed. Wedi iddynt argyhoeddi'r capten ei bod yn bosib trimio'r cargo, anfonwyd 9 morwr, fore trannoeth, i helpu Howel gyda'r gwaith. Yn ystod y dydd ceisiodd y 'Merrimac' dowio'r llong ond torrodd y rhaff. Anfonodd y capten 4 morwr arall a chyda'u cymorth hwy yn gweithio trwy'r nos unionwyd y llong.
Gwirfoddolodd 10 o'r dynion hwylio'r llong, o dan Howel fel swyddog arnynt, yn ôl i Brydain. Yng ngeiriau Howel Williams ei hun, dyma a ddigwyddodd wedyn: 'We succeeded in bending the sails and sailed for the Channel. We got around Cape Clear on April 2nd, not having seen land till then. We hove to in a severe gale on the 23rd. having picked up a safe anchorage. We dropped anchor in Cardigan Bay, and wired to Liverpool for a tug. That evening Captain Rattray the Co. Marine Supt. and seven men arrived in a tug and took us in tow and anchored her in the Mersey on April 25th. Later she was taken into the Herculaneum Dock, Liverpool. She had been navigated 1700 miles. Thus the vessel that had been abandoned was restored with her cargo to the owners.'
Am y weithred ddewr hon dyrchafwyd Howel yn Gapten ar un o longau'r Elder Dempster, S.S. Loango, ac ar ei fordaith gyntaf fel Meistr aeth Capten Howel Williams i helpu llong arall a gollodd ei phropelor a'i thowio i Madeira.
Ni chafodd, fodd bynnag, yrfa hir fel Meistr ar ei long ei hun gan iddo gael trafferthion gyda'i olwg, a bu raid iddo ymddeol yn gynnar. Bu farw ar Fehefin 6ed. 1926 yn 65 oed, ac fe''i claddwyd yn Llanbeblig gyda'i wraig Margaret Elizabeth, a fu farw Tachwedd 17. 1901 yn 38 oed. Roedd ganddynt dri o blant, dau fab ac un ferch. Boddodd ei ail fab, John Richardson Williams trwy gael ei olchi dros fwrdd yr 'S.S. New Brighton' dau ddiwrnod o St Vincent, Cape Verde Islands ar Chwefror 18ed. 1925 yn 29oed.
 |
Y Caernarfon Choral Society, Llundain 1909 |
Does wybod pa lwyddiannau a fyddai wedi dod i ran Howel Williams pe byddai wedi cario ymlaen ym myd cerddoriaeth, ond ymddengys mai'r môr oedd ei gariad cyntaf, er iddo ddechrau simsanu yn ystod y cyfnod cynnar hwnnw yn San Fransisco.
Hyd yma, soniwyd am rai aelodau o'r teulu oedd yn gerddorion, ond yn dilyn galwadigaethau eraill. John Williams, y cyfansoddwr tonau yn ofaint, ei fab Humphrey, arweinydd corau yn oriadurwr a'i fab yntau Howel, yr offerynnwr yn gapten llong. Ond daeth brawd hynaf Howel, John, yn gerddor proffesiynol, er fod Cyfrifiad 1881 yn datgan mai oriadurwr fel ei dad ydoedd yn 24 oed, a bod y teulu wedi symud o 6 Pool Street i 20 Castle Square, h.y. o'r siop lle mae Angels y Pobwyr heddiw, i'r fan lle mae siop fwyd Subway. Dim ond dros y ffordd mewn gwirionedd. Ond erbyn y flwyddyn 1895, yn ôl y Slaters Directory ceir ei fod yn ennill ei fywoliaeth trwy ddysgu cerddoriaeth a chawsai ei ddisgrifio fel: John Williams, 'Teacher of Music,' ac yna enw ei gartref Preswylfa. Erbyn hyn roedd hefyd yn organydd cyflogedig yr Eglwys Saesneg Christ Church. Bu ei dad, Humphrey farw yn 1883 ac erbyn 1895, eto yn ôl Slaters, 'Williams & Pritchard, Watchmakers & Music Warehouse' oedd yn 20, Castle Square. Y tebyg yw i John Williams fynd i bartneraieth ac estyn y busnes i gynnwys offerynnau cerdd.
Yn y flwyddyn 1856 y'i ganed ef ac fe ddywedir i'w yrfa fel arweinydd corau gychwyn mor gynnar â'r flwyddyn 1875, pan oedd ond 19 oed, a'r flwyddyn olynol, 1876, enillodd y wobr gyntaf gyda'i gôr yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam. Roedd ei record yn y Genedlaethol yn un i fod yn eiddigeddus ohoni. Enillodd 6 gwobr gyntaf ac 1 ail wobr yng nghystadleuthau y corau, a chôr meibion o dan ei arweiniad ef, Côr Meibion Eryri a orfu allan o 4 côr o bob rhan o Gymru yn Eisteddfod Cymry Llundain, 1897 yn y Queen's Hall. Wedi'r fuddugoliaeth aeth Mr. David Lloyd George â'r aelodau o gwmpas y Tŷ Cyffredin, a thrannoeth canodd y côr yn y Surveyor's Institute, Westminster. A phwy ddylech chi oedd Llywydd y cyfarfod? Hogyn o Gaernarfon, Syr William Preece, ac mae cofeb iddo i'w weld ar fur y Post ar y Maes.
Mae'n debyg mai dwy orchest fwyaf John Williams fel côr feistr oedd yn Eisteddfodau Cenedlaethol Llundain, 1909, a Wrecsam, 1912, pan orchfygodd ei gôr rai o gorau enwocaf y De, a thrwy hynny daeth Cymdeithas Gorawl Caernarfon i gael ei chydnabod fel yr orau yng Nghymru. Mewn teyrnged iddo, a gyhoeddwyd yn y Caernarfon & Denbigh Herald, Tach. 30ed. 1917, yn dilyn ei farwolaeth, dywedir iddo fod yn un o ddau gôr feistr gorau Prydain. Nid Cymru ond Prydain a phriodolwyd ei lwyddiant fel hyfforddwr, i'r ddawn oedd ganddo i ddadansoddi darn o gerddoriaeth a dysgu aelodau ei gôr i'w ganu yn union fel y bwriadodd y cyfansoddwr iddynt ei wneud. Rhoddai y sylw pennaf i'r geiriau gan wneud y gerddoriaeth yn israddol iddynt yn hytrach na fel arall. Aethai i drafferth i esbonio'n fanwl ystyr y geiriau, y ffordd y dylid eu ynganu a'r pwysleisiadau. Credai mai cyfeiliant i'r geiriau oedd y gerddoriaeth i fod.
Yn 1899, canodd Côr Meibion Eryri yng nghastell Caernarfon o flaen Dug a Duges Efrog, Y Brenin Sior y 5ed a'r Frenhines Mary yn ddiweddarach, a chyn diwedd y flwyddyn honno gorchmynwyd y côr i ganu yng nghastell Windsor (by Royal Command), ac ymysg y gynulleidfa roedd Tywysog a Thywysoges Cymru ac Ymerawdwr ac Ymerodres yr Almaen. Methodd y Frenhines Victoria ei hun â bod yn bresenol oherwydd profedigaeth yn y teulu. Roedd yr aelodau o'r teulu brenhinol wedi eu plesio yn fawr gyda'r perfformiad ac ar ddiwedd y cyngerdd fe gyflwynodd Tywysog Cymru - ar ran y Frenhines - faton i John Williams fel arwydd o'u gwerthfawrogiad. Roedd y baton yn un arbennig iawn ac wedi ei addurno gyda gemau gwerthfawr. Newidiwyd hefyd enw y côr i Gôr Meibion Brenhinol Eryri, a bu galw mawr am ei wasanaeth mewn dinasoedd a threfydd yn Lloegr fel Northampton, Kettering a Wolverhampton, ond cyn pen blwyddyn roedd y côr wedi gwasgaru.
Yn y cyfamser sefydlwyd y Caernarfon Operatic Society, gyda John Williams yn hyfforddwr. Perfformiwyd llawer o'r hen ffefrynnau fel HMS Pinafore, The Mikado a Pirates of Penzance, gyda'r elw i gyd yn mynd at gost adeiladu y Cottage Hospital. John Williams ei hun a gymerai y prif ran yn y perfformiadau, ond ar ôl rhai blynyddoedd, penderfynodd roir gorau i'r swydd o hyfforddwr, a dyna oedd diwedd y Gymdeithas Opera. Ail sefydlodd y Gymdeithas Gorawl ac ef, fel y gwyddys, oedd arweinydd Côr Yr Arwisgiad yn 1911 yng Nghastell Caernarfon.
 |
John Williams, arweinydd y Caernarfon Choral Society |
Roedd perfformiad y côr ar y diwnod hwnnw cymaint llwyddiant, nes i'r galwadau am ei wasanaeth lifo i mewn a bu'n cynnal cyngerddau yn Llundain, Lerpwl a rhai o ddinasoedd mwya'r deyrnas. Doedd dim amheuaeth wedyn nad John Williams, 'of the Caernarfon Choral Society,' oedd côr feistr mwyaf poblogaidd Prydain. Ond, Joni Williams, Côr Mawr, oedd o i bobl Caernarfon, ac mae gennyf gof plentyn o fy mam a dwy fodryb imi'n sôn amdano gydag atgofion annwyl iawn o'r amser pan oeddynt yn aelodau o'i gôr.
Y fo, mae'n debyg oedd yr aelod enwocaf o'r teulu cerddorol hwn y buom yn ei drafod heno, ond os cofiwch chi, mi ddywedais ar y dechrau fod yma bedair cenhedlaeth o gerddorion gan gychwyn gyda John Williams Y Gof, taid Joni Williams, Côr Mawr. Roedd gan yr olaf bump o blant; dau fab a thair merch. Yr hynaf ohonynt oedd William Humphrey Williams, a aned yn 1891, a'r ail hogyn oedd yr olaf of plant, John, a oedd gryn 10 mlynedd yn iau na'i frawd.
Yn 12 oed aeth William Humphrey i Magdalen College, Oxford fel chorister lle bu am bedair blynedd. Roedd ef yn un o'r rhai mwyaf addawol yno, ac fe'i dewisiwyd yn fynych i gymryd rhan fel unawdydd. Treuliodd flwyddyn yn ychwanegol yn y coleg o dan gynllun a elwid yn 'ex-choristership.' Yna dechreuodd ar yrfa mewn busnes gyda'r Chwarel Lechi Alexandria, yng Nghaernarfon, ac ymhen dwy flynedd aeth yn brentis gyda'r cwmni 'Turner Brothers, Asbestos & Rubber Manufacturers, Rochdale.' Gyda i'w brentisiaeth ddod i ben, daeth yn rhyfel, ac roedd ef yn un o'r rhai cyntaf i listio ym mis Awst 1914, fel 2nd Lieutenant yn y 6th Lancashire Fusiliers. Ym mis Gorffennaf 1915 ac ar ôl cyfnod o hyfforddiant yn Southport a Crowbridge fe'i hanfonwyd i'r Dardanelles a bu'n ymladd yn yr hyn a elwid yn Ymgyrch Gallipoli. Yn wir, ef oedd yr unig swyddog, yn y Company a berthynai iddo, i ddod oddi yno'n fyw. Ni allai, fodd bynnag, gario ymlaen i ymladd gan iddo gael gwenwyn i'w fraich. Yna ym mis Tachwedd, 1916, wedi iddo gael adferiad daeth adref i Gaernarfon am hoe. Erbyn hyn roedd wedi ei ddychafu'n Lieutenant ac anfonwyd ef i'r Aifft, i Alexandria, lle'r ymunodd â'r R.F.C., ac ar ôl 3 mis o hyfforddiant llwyddodd yn yr arholiad i fod yn beilot awyren. Dyrchafwyd ef yn Gapten a bu'n hyfforddi eraill i hedfan am gyfnod. Ymhen 6 mis gwnaed ef yn Flight Commander ac ar Fawrth 3ydd. 1918 anfonwyd ef i ymuno â sgwadron yn Palastine, ac ar Fai 3ydd. lladdwyd ef mewn sgarmes gyda'r gelyn, union bythefnos ar ôl iddo gyhoeddi ei ddyweddiad i Miss Ormerod, merch o Castleton, ger Manceinion. Roedd hyn yn ergyd ychwanegol i'w deulu, oherwydd bu ei dad farw lai na 6 mis ynghynt. Gellir gweld ei enw a'i gyferiad ar y senotaff ar y Maes, W.H. Williams, Preswylfa.
Bu ei frawd iau, hefyd, yn Magdalen College fel chorister am gyfnod, ond ychydig a wyddys amdano ef. Un ffaith yn unig sef bod Master John Williams yn bresennol yng nghynhebrwng ei dad fis Tachwedd 1917, sy'n golygu mwy o waith ymchwil.
© T. M. Hughes 2013