Caernarfon Ddoe/Caernarfon's Yesterdays header



YR HINDOO

Na! Nid wyf am sôn am ddilynwr un o grefyddau mawr y byd, ond yn hytrach trafod hanes llong a gofrestrwyd ym Mhorthladd Caernarfon. Ei pherchennog oedd neb llai na Humphrey Owen, Rhuddgaer, Llanidan, Môn, a ddaeth yn fwy adnabyddus fel perchen y Vulcan Foundry yn Noc Fictoria, Caernarfon, wedi hynny.

Dwy ganrif a mwy yn ôl, roedd ceisio ennill bywoliaeth wedi mynd cynddrwg yng Ngogledd Cymru fel bu raid i laweroedd o deuluoedd hel eu pac
Poster yn hysbysebu taith Yr Hindoo i Efrog Newydd ym 1843
a gadael yr hen wlad yn y gobaith am well cyfleodd tu hwnt i Fôr Iwerydd. Roedd ymfudo yn waith peryglus iawn yn y 18. a'r 19. ganrif. Llawer yn mentro eu bywydau eu hunain a'u teuluoedd ar longau hwylio cwbl anaddas i gludo teithwyr ar y cefnfor a'r daith yn cymryd rhwng tri a chwe mis. Ar adegau byddai bron hanner y teithwyr yn colli eu bywydau cyn cyrraedd arfordir America. Digwyddodd hyn tua chanol y 18. ganrif yn hanes un o'n beirdd mwyaf adnabyddus ei gyfnod sef Goronwy Owen o Fôn. Collodd ef ei wraig a phlentyn oherwydd afiechydon ar y fordaith, "Lorio dau i wely'r don,/Aer a'i gymar i'r gwymon."

Ond, erbyn diwedd yr 1830au, dechreuodd pethau wella. Adeiladwyd Barc 3 mast yn Merigomishe District of Picton, Nova Scotia, yn 1838, a'i pherchnogion ar y cychwyn oedd George Macleod, ei hadeiladydd, Richard Jones, Marsiandwr, Caergybi a Humphrey Owen. Fe'i cofrestrwyd ym Miwmares ar Fehefin 12. 1839. Yna yn ddiweddarach, fe'i hail gofrestrwyd yng Nghaernarfon fel Barc 380 tunnell i gludo 400 o deithwyr, ac roedd angen 15 o griw i'w hwylio. O 1840 hyd at 1847 bu Richard Hughes yn capten arni a chredir iddo groesi Môr Iwerydd 25 o weithiau ôl a blaen yn ystod y cyfnod hwnnw. Cyfartaledd o dair taith y flwyddyn a chredir iddo wneud taith i Quebec ac yn ôl mewn dau fis ac ugain niwrnod.

Bu'n un o longau Caernarfon am 21 mlynedd, sef o 1840 hyd at 1861, pryd y gwerthwyd hi i Lerpwl. O ganlyniad hwyliodd cannoedd lawer o Gymry Cymraeg ynddi o siroedd Môn, Meirionnydd, Caernarfon a Dinbych, am yr Unol Daleithiau i ddechrau bywyd newydd. Tlodi yn eu gorfodi i adael eu gwlad a hwylio i ben arall y byd, lle credent y byddai'n haws i gael dau ben llinyn ynghyd ac y byddai gwell manteision i'w plant ennill bywoliaeth. Hynny, heb feddwl byth am ddychwelyd i'w gwlad enedigol na gweld yr anwyliaid a adawsant ar eu hôl. Tocyn unffordd oedd ganddynt.

Cyfnod Richard Hughes yn Gapten arni oedd cyfnod ei bri fel llong i gario ymfudwyr ac mae gan y diweddar Bob Owen, Croesor, yn ei ysgrif i'r Hindoo hanesyn am storm fawr ar y cefnfor a barhaodd am 4 diwrnod. Roedd llawer o'r teithwyr yn sâl môr ac eraill wedi mynd i anobeithio goroesi'r storm a gweld tir unwaith eto. Mis Ebrill 1842 ydoedd ac aeth un ohonynt, Edward Rees, o Lanegryn, Sir Feirionnydd, at y Capten a gofynnodd iddo a roddai ef ei ganiatâd iddo i gynnal Cyfarfod Gweddi yn y Caban. Cytunodd y Capten ar unwaith a heliodd Edward Rees griw o grefyddwyr selog o fysg y teithwyr a dyma a ysgrifennodd yn ei ddyddiadur "Wedi inni fynd i'r Caban mi syrthiodd Griffith Roberts, Clynnog, ar ei liniau. Yr oedd tua 5 o'r gloch y pnawn ac erbyn 9 nid oedd chwa o wynt i'w glywed."

Rhydd hyn gipolwg i ni, heddiw, sut fath o bobl oedd llawer iawn o'r rhai a ymfudodd. Pobl o gefndir crefyddol a oedd am wella eu stad. Rhai oedd am gychwyn bywyd newydd lle roeddynt yn rhydd i addoli heb iddynt gael eu herlid gan dirfeddianwyr ac eraill a oedd yn wrthwynebus i'w daliadau anghydffurfiol a Rhyddfrydol.

Gŵr o'r un anian oedd y Capten Richard Hughes ac ef a haeddai'r clod bod pawb o'r teithwyr a'r criw wedi cyrraedd Efrog Newydd yn holliach mewn 42 o ddiwrnodau er gwaetha'r elfennau. Fe gymerodd y Capten ofal o long arall a oedd yn eiddo i Humphrey Owen o'r enw "Higginson" yn 1847 a gwnaeth hithau groesi Môr Iwerydd laweroedd o weithiau gydag ymfudwyr, ond erbyn 1852 ceir ei fod yn Gapten ar long o'r enw "Jane" o Biwmares a cheir adroddiad yn y "Cenhadwr Americanaidd" yn cyfeirio at ei allu digamsyniol fel morwr a Meistr profiadol "..............yr hwn gynt oedd yn gapten ar yr Higginson o Gaernarfon, wedi gwneud cymaint â 25 o deithiau i'r America, yn y llestr honno yr "Hindoo" ac ni chollodd mewn un o'r teithiau hyn gymaint â bollt neu hwyl erioed , ond yn unig un 'stensil boom,' wedi hwylio bob amser heb wirodydd poethion, oddieithr ychydig at ddibenion meddygol."

Ar un achlysur, fodd bynnag, aeth yr "Hindoo" i drafferthion
Hanes lansio Yr Hindoo yng Nghaernarfon a ymddangosodd yn y North Wales Chronicle, 25ed. o Chwefror, 1840
pan gyrhaeddodd yr U.D.A. gan iddi gael ei chyhuddo o gario mwy o ymfudwyr nad oedd y wlad honno yn ei ganiatáu. Prin yw'r dystiolaeth am yr hyn a ddigwyddodd, ond yn ôl un ffynhonnell bu raid i'r cwmni dalu 150 o ddoleri am 90 o deithiwr dros y 150 a oedd yn oddefiedig er mai plant oeddynt gan fwyaf.

Erbyn y flwyddyn 1853 roedd llongau stêm wedi dod yn llawer mwy poblogaidd gan deithwyr ac ymfudwyr ac arafu a wnaeth y galw am longau hwylio fel yr "Hindoo," gan eu bod yn fwy cysurus a chyflymach. Yn y flwyddyn 1861 fe'i gwerthwyd i Lerpwl gan roi terfyn ar ei chysylltiad â phorthladd Caernarfon. Ei phwysigrwydd yn hanes y dref yw yn y ffaith mai llong Gymreig ydoedd gyda chriw o Gymry yn ei hwylio ac oddi yma yr ymfudodd llaweroedd o Gymry Cymraeg o Ogledd Orllewin Cymru am Ogledd America. Amcangyfrifir iddi, yn ystod yr 21ain mlynedd y bu hi'n gofrestredig yng Caernarfon, groesi Môr Iwerydd, ôl a blaen, tua 60 o weithiau yn cario cyfanswm o rai miloedd a oedd a'u bryd ar ymsefydlu mewn "gwlad o laeth a mêl."

Does dim amheuaeth ychwaith, mai fel "Yr Hindoo o Gaernarfon" yr ystyrid hi gan bawb yn y dref ac ymhell tu hwnt. Dyma a ddywedodd un bardd Cymraeg ei iaith amdani:

Coron eurfalch Caernarfon
Yw'r Hindoo ar y wen don.


© T. M. Hughes 2010