Caernarfon Ddoe/Caernarfon's Yesterdays header



PWY OEDD JOHN LLWYD?

Dro'n ôl buom yn trafod enwau strydoedd yng Nghaernarfon ac yn sylwi nad cyfieithiad o'r enw Saesneg i'r Gymraeg, neu fel arall, oedd llawer ohonynt. Cymerer Wesley Street a Stryd John Llwyd er enghraifft. Hawdd deall yr enw Saesneg gan mai stryd gyfagos i gapel Ebeneser (Wesla) ydyw, ond pam Stryd John Llwyd? Cwestiwn yw hwn a ofynir yn fynych y dyddiau hyn.

Credir mai yn y flwyddyn 1793 y ganed John Lloyd, yn fab i William Lloyd, Stryd y Jêl, a oedd yn gweithio fel cychwr (boatman) i Swyddogion y Tollau (Customs) ger Gwesty'r Anglesey ar y Cei. Yn ôl Cyfrifiad 1794 a gynhaliwyd ym mis Mehefin y flwyddyn honno, un plentyn oedd gan William Lloyd a'i wraig, bryd hynny a chan fod carreg fedd John Lloyd yn Llanbeblig yn adrodd iddo fod yn 74 oed pan fu farw ar Hydref 24, 1867, diau mai John Lloyd oedd plentyn cyntaf William ac Anne Lloyd. Hynny er nad yw y Cyfrifiad arbennig hwnnw yn enwi gwragedd na phlant, dim ond y gŵr fel penteulu.

Er mai fel pensaer y daeth John Lloyd yn adnabyddus yng Nghaernarfon a'r cylch, ni lwyddwyd i ddod o hyd i unrhyw dystiolaeth iddo gael hyfforddiant yn y maes hwnnw, ond mae sawl cyfeiriad ato fel adeiladydd a chredir, fel yn achos eraill yn yr oes honno, mai hunan-hyfforddedig ydoedd mewn pensaernïaeth.

Priododd â Grace Davies trwy drwydded ar Fai 23. 1815 yn Eglwys Llanbeblig a ganed iddynt bedwar o blant sef Anne, Grace, William ac Eliza. Credir mai yn 1826 y cawn ei hanes gyntaf fel Pensaer yn cynllunio Capel Ebeneser, lle bu hefyd yn gyd Ymddiriedolwr gydag R.M. Preece, tad yr enwog Syr William Preece. Daeth llawer iawn o waith i'w ran wedi hynny a dyma restr o rai ohonynt:

Cyn iddo ymgymeryd â'r gwaith o godi Capel Ebeneser, cynlluniodd Oleudy gwyngalchog Tŷ Mawr ar dir Ynys Môn a adeiladwyd yn 1824 gan Ymddiriedolwyr Harbwr Tref Caernarfon. Ychwanegwyd y lantern yn 1846.

1832. Cynlluniodd y Farchnad yn Stryd y Plas. Bu raid dymchwel yr hen Blas Mawr, adeilad a gredid oedd yr hynaf yn nhre Caernarfon ar y pryd.

1832. Yn ystod yr un flwyddyn, John Lloyd oedd y pensaer a gynlluniodd Y Gwaith Nwy ar Ffordd Y Santes Helen. Hwn oedd y Gwaith Nwy cyntaf yng Nghymru o dan reolaeth awdurdod lleol, a'r ail i Fanceinion trwy'r Deyrnas Unedig.

1836. Cynllunio Neuadd yr Eglwys Feed My Lambs ac Ysgol y Babanod.

1838. Atgyweirio Eglwys St. Ceinwen, Llangeinwen.

1841. Atgyweirio Holy Trinity Church Bryngwran.

1850'au cynnar, cynlluniodd Orsafoedd yr Heddlu yn 1) Brynsiencyn, 2) Dolgellau, 3) Conwy ac yn 1853 4) Pen Deitsh, Caernarfon.

1855. Cynlluniodd Y Barics ar Ffordd Llanberis.

1858. Cynlluniodd Yr Ysgol Frutanaidd ym Mhenrallt Isa ynghyd â Thŷ'r Gofalwr.

Sylwid o edrych ar Gyfrifiad 1841 bod dau o'u bedwar plentyn wedi eu geni yn y 1820'au yn Rhuthun, sy'n awgrymu na threuliodd John Lloyd y cyfan o'i oes yn ei dref enedigol, ond erbyn genedigaeth yr olaf o'i blant, Eliza, ym mhwyf Llanbeblig y ganed hi.

Mae un hanesyn yn
Plac y Gwaith Nwy
cael ei gofnodi yn y North Wales Chronicle 26.2.1833 yn dweud i John Lloyd fynd yn fethdalwr a chael ei wysio i ymddangos gerbron Comisiynnwyr y Fiat ar ddau ddiwrnod sef Chwefror 25. a'r 1af o Ebrill 1833. Cynhelid y cyfarfodydd yng nghartref un Mr. James Day, sef y Castle Hotel ar Faes Caernarfon. Ar y pryd roedd wedi bod yn gysylltiedig gyda dau brosiect o bwys, sef Y Gwaith Nwy ar Ffordd Santes Helen a'r Farchnad yn Stryd y Plas. Yr awgrym yw iddo fynd i drafferthion ariannol mewn cysylltiad â'i fuddsoddiad yn Y Farchnad. Sylwid hefyd nad fel pensaer, ond fel "Builder, Dealer and Chapman" y disgrifid ef.

Cafodd ddwy brofedigaeth yn ymyl eu gilydd. Yn 1839 bu farw ei wraig, Grace, yn 55 oed ar ôl cystudd hir a'i adael gyda phedwar o blant o 13 i 18 oed. Yna ar Fai 11.1841 bu farw ei ferch hynaf , Ann, yn 20 oed. Yn yr un flwyddyn ac ar Awst 25ain ail briododd John Lloyd gydag Ann Michael, Rhes Segontium, gyda thrwydded yn Eglwys Llanbeblig.

Yn ardal Twtil y bu byw am ran helaeth o'i oes ac ef a gynlluniodd ac a adeiladodd ei gartref, Frondeg, ac felly hefyd rhai o dai ei gymdogion. Fo hefyd a oedd yn gyfrifol am godi tai Wesley Street yn ymyl Capel Ebeneser a dyma'r enw sy'n ymddangos yng Nghyfrifiadau ganol y 19eg ganrif a'r enw a roes y trigolion Cymraeg eu hiaith arni oedd Stryd John Llwyd. Er i'r tai gwreiddiol gael ei dymchwel flynyddoedd yn ôl, fel Stryd John Llwyd yr adnabyddir y stryd o fflatiau gweddol newydd sydd yno heddiw. Fodd bynnag, o edrych ar Gofrestrau Claddu Llanbeblig gellir dod ar draws yr enw yn Saesneg John Lloyd Street yn aml. Pam tybed?

Cyn terfynu yr hanesyn hwn ar John Llwyd, dylid nodi bod llawer iawn o sylw wedi ei roi ar hyd y blynyddoedd i'r ffaith iddo fod yn Wesleiad ac yn Ymddiriedolwr yng Nghapel Ebeneser. Fodd bynnag, cyn diwedd ei oes mae'n rhaid ei fod wedi troi at yr Eglwys Wladol gan y dywedir iddo fod yn Warden yn Eglwys Llanbeblig ac i'w fab, William, fod yn "sidesman" yn yr Eglwys Saesneg "Christ Church."

Golygfa o ddwy ochr Stryd John Llwyd. © Tom Griffiths - Grenz
Golygfa o ddwy ochr Stryd John Llwyd. © Tom Griffiths - Grenz.

Y Gêm Esgid. © Tom Griffiths - Grenz
Y Gêm Esgid. © Tom Griffiths - Grenz

Ar Fore Sadwrn. © Tom Griffiths - Grenz
Ar Fore Sadwrn. © Tom Griffiths - Grenz

Ar y Sul. © Tom Griffiths - Grenz
Ar y Sul. © Tom Griffiths - Grenz

Golygfa o ddwy ochr Stryd John Llwyd

Dyma fel yr arferai Stryd John Llwyd edrych o gyfeiriad Stryd y Capel, gyda'r tai ar yr ochr dde i gyd wedi eu gwneud â cherrig ac ar yr ochr chwith yn gymysgedd o dai a wnaed o frics ac eraill o gerrig. Ar y chwith gwelir sied neu weithdy a rhai llythrennau i'w gweld yn blaen ar y drws sydd ar agor. Man lle cawsai pobl ddod â'u hymbarelau i'w trwsio oedd a'r geiriau llawn ar y drws oedd "Hamilton, Umbarella Hospital". Roedd amryw o'r rhai hyn yn y dref bryd hynny ac un adnabyddus iawn mewn Siop Barbar Ted Morton Jones yn Twtil.

Y Gêm Esgid

Un o'r chwareuon a gawsai plant y stryd hwyl ar ei chwarae oedd Y Gêm Esgid. Gosodwyd hen esgid mewn cylch mewn sialc a oedd union yn y canol rhwng dau dîm o 1 i 5, yn dibynnu ar y nifer a fyddai ar gael i'w chwarae. Pan alwyd rhif un o'r timau allan byddai raid iddo redeg yn gyflym i geisio cael gafael ar yr esgid cyn i'w wrthwynebydd gyffwrdd â hi. Gêm ydoedd a ddyfeisiwyd gan blant y stryd a byddai pawb yn ei mwynhau. Prynwyd y llun gwreiddiol gan Dr. Alun Armstrong o'r Brifysgol Agored yng Nghymru yn Eisteddfod Genedlaethol 1993.

Ar Fore Sadwrn

Un o'r digwyddiadau o bwys ar fore Sadwrn fyddai ymweliad ffermwr o Sir Fôn gyda'i lori yn cario danteithion di-ri ar ffurf llysiau a ffrwythau. Byddai'n arferiad ganddo i ddod i strydoedd cefn y dref, lle cai groeso gan y trigolion oherwydd ei hynawsedd a byddai llawer yn prynu'n rheolaidd ganddo.

Ar y Sul

Roedd yng Nghaernarfon garfan gref o Fyddin yr Iachawdwriaeth ar y pryd a mynegir hynny yn y darlun olaf hwn. Er prinned arian y trigolion, llwyddid i ddenu casgliad teilwng bob tro. Dylid tynnu sylw at y wraig yn y gadair olwyn. Mrs. Williams o Moriah Square oedd hi ac yn aelod selog o'r fyddin am flynyddoedd lawer. Ganed hi'n anabl a threuliodd ei hoes mewn cadair olwyn.


Diolch yn fawr iawn i'r arlunydd Mr. Tom Griffiths - Grenz - am gytuno i ni ddefnyddio y lluniau uchod. Mae'n rhaid pwyntio allan na ganiateir i neb ddefnyddio y lluniau hyn heb gael caniatâd gan Mr. Griffiths.

O.N. Unwaith eto pleser gan yr awdur yw cydnabod gwaith ymchwil trwyadl ei gyfaill Geraint Wyn Roberts.

© T. M. Hughes 2010