Yn y flwyddyn 1843 adeiladodd Humphrey Owen, Rhyddgaer, sgwner newydd 69 tunnell ar gyfer 6 o drigolion Caernarfon. Enwau'r perchnogion ydoedd: John Owen, Tŷ Coch (ei fab), William Thomas, Owen Edwards, Nehemiah Bracegirdle, John Jones a David Davies. Ni chysylltwyd enw Humphrey Owen ag adeiladu llongau cyn hynny,
![]() |
Englyn a weddai i'r dim i'r achlysur, ac un sy'n mynegi deisyfiad pob morwr a phob un a oedd gan anwyliaid yn hwylio'r cefnfor. Mewn gair, gweddi ydyw sy'n erfyn ar i'r elfennau fod yn garedig tuag at y llong a'i chriw a'u cadw rhag peryglon y môr. Llong a hwyliai o amgylch yr arfordir (Coaster) oedd y 'Napoleon,' ond ni olygai hynny ei bod yn rhydd o deimlo fflangell y gwynt ac ambell foryn cynddeiriog, fel y profwyd sawl tro. Brodor o blwyf Llanbedrog yn Llŷn oedd ei Meistr cyntaf, William Thomas (1815 - 1874) ac yn ôl Cofrestr Lloyds, 1852, ceir ei fod erbyn hynny yn brif berchennog y sgwner yn ogystal, ac o'r flwyddyn 1855 hyd 1860 bu'n berchennog ac yn Feistr sgwner arall y 'Don Quixote' a gollwyd fis Ebrill, 1860. Credir mai dyma'r cyfnod y rhoes y 'Napoleon' yng ngofal ei frawd Capten Griffith Thomas (1822 - 1905), ac ar ôl colli'r 'Don Quixote' prynodd William Thomas sgwner newydd 120 tunnell, a adeiladwyd yn 1859 yn Bridport Harbour, Dorset, a galwodd hi yn 'Eleanor Thomas,' yr un enw â'i wraig.
Bu'n gapten ar yr 'Eleanor Thomas' o 1860 hyd at ganol 1872, pryd y trosglwyddodd yr awenau drosodd i'w fab hynaf William Robert Thomas, 27 oed. Credir mai ei reswm dros ymddeol yn gynnar oedd cyflwr ei iechyd, oherwydd bu farw ar Fehefin 19. 1874, yn 59 oed, ac er fod ei wraig a saith o'i blant wedi eu claddu ym mynwent Llanbeblig, yn ei hen gynefin yn Llanbedrog y claddwyd ef.
Goroeswyd ef gan ei ferch Margaret Ann, 32, oed, William Robert, 29 oed a David Charles, 15 oed. Mewn ewyllys dyddiedig Chwefror 8. 1873, ei ddymuniad oedd i rannu ei eiddo rhwng y tri, h.y. tri o dai yng Nghaernarfon, un ym mhlwyf Llanbedrog, a'r ddwy sgwner 'Eleanor Thomas' a'r 'Napoleon' ynghyd â'i arian. Er iddo enwi ei frawd Griffith Thomas fel un ysgutor nid oedd wedi ei gynnwys yn yr ewyllys, ond mewn atodiad i'r ewyllys wreiddiol, dyddiedig Mai 5. 1874, rhoes chwarter siâr yn y 'Napoleon' i Griffith a chwarter yr un i'w dri phlentyn ar yr amod ei fod yn talu chwarter y gost am y gwaith atgyweirio oedd angen ei wneud arni ar y pryd.
Ni wyddys pa ddealltwriaeth a gyrhaeddodd Griffith gyda phlant ei frawd, ond ei enw ef a roed ar ddogfennau fel perchennog y 'Napoleon' ar ôl 1874 hyd at 1891, pan ymddangosodd enw ei fab ieuengaf Robert Henry Thomas (1869 - 1961). Groser llwyddiannus ac adnabyddus yng Nghaernarfon oedd R.H. Thomas, Castle House, a brynodd fusnes J. R. Pritchard, gŵr enwog yn y dref, yn 1892.
O edrych yn ôl ar hanes y 'Napoleon,' prin y gellir dweud iddi hi na'r criw fu arni gael gyrfa ddidramgwydd, fel y dymunai y bardd Caledfryn yn ei englyn wrth ei lansio yn y flwyddyn 1843. Un enghraifft o hynny yw'r hyn a ddigwyddodd ar fordaith o Lundain am Portsmouth yn 1872. Roedd y 'Napoleon' heb for nepell o arfordir Margate, ac mewn gwynt cryf am 3 o'r gloch y pnawn ar Dachwedd 15. a dau o'r llongwyr yn ceisio tynnu'r 'boom' i mewn pan gariwyd i ffwrdd y 'jib boom' ac fe'u hyrddiwyd i'r môr. Nid oedd gobaith eu hachub gan mor arw oedd y tywydd fel na ellid cael rheolaeth ar y llong. Caed enwau'r ddau oddi ar Restr y Criw fel a ganlyn:
Enw | Oedran | Tref enedigol | Ymunodd a'r Llong | Swydd | Achos |
William Williams | 35 | Pwllheli | Hyd. 12 Caernarfon | A.B. | Boddi Tach. 15. |
Hugh Roberts | 36 | Beaumaris* | Hyd. 12 Caernarfon | A.B. | Boddi Tach.15. |
Wedi cyrraedd Porstmouth, a'r 'Napoleon' bellach ddau longwr yn fyr, cyflogodd Capten Thomas ddau o wŷr lleol yno ar Dachwedd 21. a dengys Rhestr y Criw am y fordaith honno na chyrhaeddodd y sgwner borthladd Caernarfon tan Ionawr 1. 1873. Bywyd peryglus ac ansicr oedd bywyd y morwr, ac nid bob amser y cyfyngwyd y peryglon i fordeithiau.
![]() |