HANES Y PAFILIWN
Ar ddechrau chwarter olaf y 19fed. ganrif sefydlwyd cwmni yn Nghaernarfon i godi cyfalaf o £7,000 i adeiladu'r pafiliwn, ac roedd y Maer, Y Cynghorydd Hugh Pugh ac amryw o bobl dylanwadol yn y dref y tu ol i'r fenter. Gosodwyd y garreg sylfaen ar Gae Twtil ar Fai 26ed. 1877, ac ymhen tri mis roedd yr adeilad wedi ei gwblhau,
|
Adeiladu'r Pafiliwn |
a chynhaliwyd y cyfarfod cyntaf yno ar Awst 21ain, cyfarfod agoriadol Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon 1877. Cynhaliwyd chwe Eisteddfod Genedlaethol arall yno, sef yn 1880, 1886, 1894, 1906, 1921 a 1935, a lle delfrydol ydoedd ar gyfer Prifwyl ein cenedl.
Tra oedd mwyafrif pobl y cylch yn croesawu'r adeilad 200 wrth 100 troedfedd hwn, roedd chwarelwyr Dinorwig yn ddig iawn o ddeall mai Cwmni Dixons o Lerpwl a fyddai'n gyfrifol am ei doi gyda haearn rhychog. Yn naturiol, llechi fyddai eu dewis hwy, ac aethant cyn belled â chynnal protest gan fartsio trwy y dref ac yn haeru na fyddai neb ohonynt yn mynychu'r adeilad. Ond, wedi sylweddoli'r fath gaffaeliad oedd y pafiliwn i gynnal cyfarfodydd adloniadol, crefyddol a gwleidyddol rhoesant y gorau i'w boicot.
Yn 1878 daeth gŵr enwog o'r enw Blondin, a groesodd Raeadr Naiagra ar raff tynn, i'r pafiliwn, a synnwyd y gynulleidfa fawr a fu'n gwylio ei orchest 40 troedfedd uwch eu pennau. Daeth cwmnîau a arbenigai mewn adloniant o bell i gynnal sioeau o safon, enwau fel Bostock, Wilding a Teago, a deuai pobl o bob rhan o Ogledd Cymru i'r pafiliwn i'w gwylio. Roedd yr adeilad hwn y mwyaf yng Nghymru, yn dal 8,000 o bobl, a sawl tref yn eiddigeddus ohono.
|
Golygfa o'r Pafiliwn o ben Twtil |
Yno y cynhaliwyd cyfarfodydd crefyddol eu naws gyda rhai o hoelion wyth y pulpud yn pregethu a'r lle yn orlawn. Yn ystod Diwygiad 1904 daeth Y Parch. Evan Roberts, Y Diwygiwr ei hun i gyfarfod yno, ac ar ôl i sawl un siarad, roedd pawb yn disgwyl gair gan y dyn mawr hwn, ond gwrthod a wnaeth gan ddweud nad oedd "wedi ei gyffwrdd gan yr Ysbryd" i wneud hynny. Traddododd Jiwbili Young, bregeth fawr Christmas Evans oddi ar lwyfan y pafiliwn gan gyfareddu ei gynulleidfa. Ac nid Cymry Cymraeg yn unig a fu'n cyhoeddi'r Gair yn y pafiliwn. Bu'r enwog Gipsy Smith yno ddwywaith, yn 1907 ac yn 1931.
Dylid dwyn i gof hefyd rhai o'r cyfarfodydd gwleidyddol mawr a fu'n y pafiliwn. Gwleidyddion mwyaf enwog eu dydd ac yn aelodau blaenllaw o bob Plaid Wleidyddol.
Dyma enwau y rhai mwyaf adnabyddus ohonynt: David Lloyd George; Winston Churchill; Austen Chamberlain; A. Bonar Law; W. Ormsby Gore; Ernest Bevin a D.R. Greenfell. Cynrychiolwyr o'r tair Plaid Wleidyddol a fu mewn llywodraeth yn San Steffan yn ystod yr 20fed. ganrif.
Yn y flwyddyn 1904, roedd Lloyd George a Churchill yn aelodau o'r un Blaid, sef y Blaid Ryddfrydol, ac ar Hydref 21ain. bu'r ddau yn annerch torf enfawr oddi ar lwyfan y pafiliwn, a chawsant groeso tywysogaidd. Wedi'r cyfarfod cariwyd y ddau ohonynt ar ysgwyddau eu cefnogwyr yr holl ffordd i Blas y Bryn, Bontnewydd, lle roeddynt yn aros. Yn y cyfarfod hwnnw y soniodd Lloyd George am ei gynlluniau ar gyfer datganoli yn y pedair gwlad, Yr Alban,Cymru, Iwerddon a Lloegr. Bwrdwn ei araith oedd "Home Rule All Round".
|
Y garreg sylfaen, dyddiedig 1877 |
Daliodd y pafiliwn i fod yn brif atyniad i bobl Caernarfon a'r cylch ym maes adloniant yn ystod blynyddoedd y Rhyfel Mawr 1914-1918 ac yn y flwyddyn 1921 cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol arall yno, y chweched ers ei adeiladu yn 1877.
Roedd yr Eisteddfod yn un o bwys yn hanes Cymru oherwydd gwobrwywyd dau fardd o Sir Gaernarfon a ddaeth i amlygrwydd oherwydd poblogrwydd eu cerddi buddugol yng nghystadleuaethau y Gadair a'r Goron.
Brodor o Abergwyngregyn, ger Bangor, oedd R.J. Rowlands (Meuryn), newyddiadurwr wrth ei alwadigaeth. Enillodd ef y Gadair am ei awdl ramantaidd "Min y Mor", a bu llawer iawn o adrodd a chanu arni mewn eisteddfodau ledled Cymru. Felly hefyd gyda'r bryddest "Mab y Bwthyn" gan frodor o Bwllheli, Y Parch. Albert Evans Jones (Cynan). Roedd cysgod y rhyfel yn drwm ar ei gerdd a'r bardd yn canu ei brofiad fel Caplan yn y fyddin ac un a fu'n cludo milwyr wedi eu clwyfo ar faes y gad. Dwy gerdd a ystyrrir i fod ymysg goreuon eu cyfnod.
Erbyn 30au'r ganrif roedd y sinemâu yn dod yn fwyfwy poblogaidd a thri ohonynt yng Nghaernarfon, felly gwnaed llai o ddefnydd o'r pafiliwn fel man i gynnal adloniant. Er hynny, fe gynhaliwyd cyngherddau a dramâ u lawer yno yn ystod y cyfnod, ac un o'r cyngherddau mawr oedd pan ganodd Paul Robeson yn y pafiliwn ym mis Medi, 1934, ar adeg trychineb fawr Pwll Glo Gresford, ger Wrecsam, pan laddwyd 264 o lowyr yn y danchwa honno. Roedd Paul Robeson yn digwydd bod yng Nghymru ar y pryd, yn ffilmio mewn ardal lofaol yn y De, ac roedd ganddo feddwl uchel o'r glowyr y bu'n byw yn eu mysg. Roedd yn teimlo i'r byw dros deuluoedd y rhai a fu farw yn y drychineb a chyflwynodd rodd o £100 tuag at y gronfa a sefydlwyd i fod o gymorth i'r gweddwon a'r amddifad.
Rhyw dri achlysur o bwys a gynhaliwyd yn y pafiliwn wedi hynny, a chyn i'r Ail Ryfel Byd dorri allan, sef Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon 1935; yn ail, cyfarfod i groesawu'r tri chenedlaetholwr, Saunders Lewis, Y Parch. Lewis Valentine a D.J. Williams, wedi iddynt gael eu rhyddhau o garchar Wormwood Scrubs yn 1937, ar y cyfnod yno am act o brotest ar ran eu cyd-Gymry ac yn enw heddwch, trwy roi adeilad ar dân yng ngwersyll yr Awyrlu ym Mhenrhos, Pwllheli; a'r trydydd oedd Cyfarfod Gwyl Lafur 1938, pan anerchwyd y gynulleidfa gan D.R. Greenfell, A.S., yn absenoldeb Clement Atlee. Roedd yr adeilad dan ei sang i'r tri chyfarfod.
|
Paul Robeson |
Ar gychwyn yr Ail Ryfel Byd yn 1939, cymerwyd y pafiliwn drosodd gan y llywodraeth a defnyddiwyd yr adeilad fel warws i gadw bwydydd yn bennaf. Yno hefyd, fel y cofia awdur hyn o eiriau yn dda, yr aethum fel teulu i gael ein ffitio am fygydau nwy (gas masks), ac o hynny ymlaen rhaid oedd cario'r mwgwd i bobman, gan gynnwys i'r ysgol; llyfrau ysgol mewn bag dros un ysgwydd a'r bocs dal y mwgwd ar ddarn o linyn dros yr ysgwydd arall.
Bu'r pafiliwn o dan ofal y llywodraeth trwy flynyddoedd y rhyfel a hyd at 1956. Erbyn hynny, roedd yr adeilad wedi dirywio'n arw ac angen llawer o waith cynnal a chadw i'w wneud arno. Teimla'r Cyngor Tref y byddai hynny yn llawer rhy gostus ac nad oedd bellach alw am adeilad o'i faint, ac yn 1961 penderfynwyd ei ddymchwel, er gwaethaf dadleuon ambell un i'r gwrthwyneb.
Y gweithgaredd olaf i gael ei gynnal yn y pafiliwn oedd ar Hydref 21ain. 1961, a chyfarfod ffarwel gwir Gymraeg a Chymreig oedd hwnnw. Cyfarfod wedi ei drefnu gan Gynrychiolydd Gogledd Cymru o'r BBC, Mr. Sam Jones. Roedd dwy ran iddo, sef Cymanfa Ganu Fawreddog gyda Madam Dilys Wynne Williams yn arwain a Mr. G. Peleg Williams yn cyfeilio, ar y naill law, ac ar y llall Pasiant Radio wedi ei drefnu eto gan Sam Jones. Casglwyd y defnyddiau gan gadeirfardd Eisteddfod Caernarfon 1921, Meuryn, a'r cynhyrchydd oedd Wilbert Lloyd Roberts. Ar y rhaglen roedd enwau cyfarwydd fel Cynan, Huw Jones, Charles Williams ac eraill a chlywyd lleisiau Megan Lloyd George yn darllen un o areithiau ei thad a Jiwbili Young yn traddodi pregeth Christmas Evans.
Roedd hi'n noson nad anghofia fi na'm gwraig byth mohoni. Roedd y cyfan yn fyw ar y Radio a bu raid i'r newyddion am 10 o Lundain gael eu dal yn y noson honno gan i'r rhaglen fynd dros yr amser, a hynny er syndod i bawb. Roedd deigryn yn llygaid y rhan fwyaf o'r 3000 a mwy ohonom wrth adael y pafiliwn am y tro olaf ar ddiwedd y noson, ond mae'r cof am y cyfarfod yn dal yr un mor felys.
© T. M. Hughes 2013