Caernarfon Ddoe/Caernarfon's Yesterdays header



HEN DEULU YN DRE

Prin fod neb a fu byw yng Nghaernarfon am gyfnod heb glywed enwi'r teulu hwn ac yn ei gysylltu ag oes y sgwneri a'r prysurdeb hwnnw a oedd yn nodweddiadol o dref Caernarfon fel porthladd allforio llechi yn ystod y 19eg ganrif. Does dim ond rhaid enwi Yr Aber, Porth yr Aur a'r cyfenw Pritchard a bydd bron pawb wedi dyfalu am bwy rwyn sôn. Ie, teulu Dafydd 'R Aber, fel yr adnabyddir nhw yn nhre'r Cofis. Afraid dweud bod yr enw hwn yn hŷn lawer na neb ohonom sy'n byw yma heddiw, ond pa mor hen?

Rhaid mynd yn ôl i ganol y 19eg ganrif i ddod o hyd i'r David Pritchard cyntaf i fod yn gysylltiedig â chario teithwyr mewn cwch dros
Yr Aber cyn i'r bont gael ei adeiladu
geg afon Seiont. Yn ôl cyfrifiad 1851, morwr ydoedd ac yn briod hefo Sarah (22 oed, a aned yn Dartford, Kent) a chanddynt un ferch o'r enw Emma, blwydd oed ac yn byw yn rhif 7, Shirehall Street (Stryd y Jêl). Ond erbyn Cyfrifiad 1861 roedd David neu Dafydd wedi rhoi'r gorau i'r môr ac yn gychwr, neu ferryman ar yr Aber neu'r Coed Helen Fferi ac erbyn hynny roedd gan y cwpwl dri o blant, Emma, 12 oed, David. C., 10 oed a John B. Pritchard, 4 oed. Yn 1864, fodd bynnag, bu farw Emma a chladdwyd hi ym mynwent Eglwys Llanfaglan. Erbyn Cyfrifiad 1871 David Pritchard oedd y cychwr o hyd a chyda'i fab hynaf David C., 19 oed, yn ei gynorthwyo a'r mab ieuengaf John B., 13 oed, yn dal yn yr ysgol. Disgrifir David Pritchard fel perchennog y cwch erbyn Cyfrifiad 1881 a'i fab David C. yn gweithio iddo ac nid oedd John B. ar y rhestr. Bu farw'r tad yn 1884 yn 76 oed ac erbyn Cyfrifiad 1891 ceir mai perchennog y cwch oedd David C. Pritchard, ei frawd John B. yn ei gynorthwyo a bachgen o'r enw Griffith Evans, 16 oed yn "Boat Boy" iddynt.

Mae'n debygol mai dyna oedd y sefyllfa pan benderfynodd Cyngor Bwrdeisdref Caernarfon adeiladu'r Bont yr Aber gyntaf a agorwyd yn swyddogol ar Ddydd Gŵyl Ddewi yn 1900. Golygai hyn bod raid i'r Cyngor dalu iawndal yn ôl cyfraith gwlad i berchennog y Fferi. Ni wyddys yr union ffigiwr a dderbyniodd David C. Pritchard mewn iawndal, ond credir iddo fod yn swm sylweddol gan iddo brynu Becws ym Mryngwyn, Llanrug, a symud yno i fyw ac yno y ganed ei fab hynaf David Charles Pritchard, yr un enw a'i dad, ac ar Gyfrifiad 1901 cofnodir iddo fod yn 7 mis oed. Yn yr un Cyfrifiad dywedir bod y tad yn "living on his means."

Ni wyddys eto am ba hyd y bu'n mwynhau byw o dan yr amgylchiadau hynny, ond yn y flwyddyn 1908 rhoes ei eiddo, Bryngwyn Bach, yn Llanrug ar werth mewn ocsiwn a gynhelid yng Ngwesty'r Sportsman yng Nghaernarfon, ond ni lwyddwyd i'w werthu. Yn ôl a ddeellir aeth pethau o ddrwg i waeth ac aeth David C. Pritchard i drafferthion ariannol ac yn fethdalwr. Dychwelodd y teulu i Gaernarfon ac yn ôl ei ŵyr, y Cynghorydd Richard Bonner Pritchard, byddai ei dad, o'r un enw eto, yn sôn wrtho yn aml am y cyfnod hwnnw ym mlynyddoedd cynnar yr 20fed ganrif, pan fu raid iddo ef a'i ddau frawd, Charles a Bob, gerdded yn feunyddiol i'r Clwb Hwylio ger y Doc i gael prydau bwyd yn rhad ac am ddim a'i enw ef ar y daith anghysurus honno oedd "Walk of Shame."

Penderfynodd y tri brawd, yn gynnar iawn ar eu hoes, i ddilyn cannoedd
Dafydd 'R Aber
lawer o drigolion Caernarfon trwy ddewis gyrfa forwrol. Aeth y ddau hynaf, Charles a Richard i'r llynges fasnachol cyn diwedd y Rhyfel Mawr a chyda Bob yn eu dilyn yn fuan wedi diwedd y rhyfel, ond dychwelyd i'w tref enedigol a wnaeth y tri yn ystod y 1920'au.

Charles oedd y cyntaf i ddychwelyd a dechreuodd ef fusnes hurio cychod ym Mhorth yr Aur ac yn 1927, y flwyddyn y bu farw eu tad, bu Richard yn ffodus i sicrhau contract i gludo nwyddau gan weinyddwyr y castell ac ar sail hyn fe brynodd lori a dyna roi cychwyn ar fusnes llwyddiannus iawn a elwir yn "Pritchard Brothers, Removals," gyda'i frawd ieuengaf, Bob, yn dod yn bartner a Charles hefyd yn rhannu ei ddyletswyddau rhwng hurio cychod a chario allan gwaith yn lleol a mynd i gyfarfod y tren cyntaf i Orsaf Rheilfordd Caernarfon yn gynnar bob bore.

Ond i ddychwelyd at enwau y rhai a fu'n gysylltiedig â'r Aber neu'r Coed Helen Fferi, diau i lawer sylweddoli erbyn hyn bod dau David Pritchard wedi treulio blynyddoedd lawer yn cludo teithwyr ar draws ceg afon Seiont a theg gofyn pa un oedd y Dafydd 'R Abar gwreiddiol, a'i y tad ynteu y mab? David Pritchard, 1808 - 1884 ynteu David Charles Pritchard, 1851 - 1927? Ac am ba un y cyfeirir yn y gân fach honno a genir gan blant Caernarfon a'r cylch ers cyn cof "Mae cwch Dafydd 'R Abar ar y môr?"

Wrth wneud y gwaith ymchwil ar gyfer yr ysgrif hon, fodd bynnag, dangosodd y Cynghorydd Richard Bonnar Pritchard ddarlun o'i hen daid imi. Darlun a beintiwyd gan arlunydd ydyw ac ar gefn y llun mae y geiriau canlynol:

DAVID PRITCHARD, 1808 - 1884.

Tybed mai dyma'r ateb i'r cwestiwn a bod y gân fach hon yn dyddio'n ôl i drydedd chwarter y 19eg ganrif?

Pedwar pennill sydd i'r gân a'r llinell gyntaf ym mhob pennill yn cael ei hailadrodd fel a ganlyn:

1) Mae cwch Dafydd 'R Abar ar y môr, mae cwch Dafydd 'R Abar ar y môr. O mae cwch Dafydd 'R Abar, cwch Dafydd 'R Abar, O mae cwch Dafydd 'R Abar ar y môr.

2) Mae'n llawn o benwaig cochion medda nhw, mae'n llawn o benwaig cochion medda nhw, mae'n llawn o benwaig cochion, llawn o benwaig cochion, mae'n llawn o benwaig cochion medda nhw.

3) A rheini wedi drewi medda nhw, a rheini wedi drewi medda nhw, a rheini wedi drewi, rheini wedi drewi, rheini wedi drewi medda nhw.

4) Mae nhw'n ddigon da i'r Saeson medda nhw, mae nhw'n ddigon da i'r Saeson medda nhw, mae nhw'n ddigon da i'r Saeson, digon da i'r Saeson, mae nhw'n ddigon da i'r Saeson medda nhw.


© T. M. Hughes 2010