SAM YR ALABAMA
Fel "Sam yr Alabama" yr adwaenid Samuel Roberts, brodor o Gaernarfon a ymfudodd yn ŵr ifanc i Awstralia, ac a dreuliodd 5 mlynedd ym Melbourne. Yn 1862, ac yntau yn tynnu at ei 30ain oed fe benderfynodd hwylio i Boston, U.D.A. Ni wyddys beth oedd ei fwriad o fynd i'r Amerig bryd hynny, a'r wlad honno yng nghanol Rhyfel Cartref ffyrnig rhwng y De a'r Gogledd, a'r gwir yw nad yw ei gymhelliad bellach o bwys gan na chyrhaeddodd ben ei daith.
Ymosodwyd ar ei long gan un o longau arfog Conffederasiwn Taleithiau'r De, y "CSS Alabama" ac fe'i gwnaed yn garcharor a'i ddodi mewn cyffion am rai wythnosau. Roedd 48 o garcharorion ar yr "Alabama," ac yn eu mysg 4 Cymro arall: John Roberts, Traeth Coch, Mân, Thomas Williams a Lieutenant Morris, y ddau o Gaernarfon, a gŵr o'r enw Hughes o Gaergybi. Yn ddiweddarch fe'u rhyddhawyd ar yr amod eu bod yn dod yn aelodau o'r criw, a dyna fu tynged Sam a'i gyfeillion am 13mis.
Llong gymharol newydd oedd yr "Alabama," a adeiladwyd gan Laird ym Mhenbedw ar lannau'r Merswy yn 1861, yn fuan wedi i'r Rhyfel Cartref dorri allan yn yr U.D.A. Roedd arweinwyr y Conffederasiwn yn awyddus i brynu llongau ar gyfer eu llynges ac i'r pwrpas hwnnw anfonwyd ysbïwyr i Brydain i brynu llongau hen a newydd y gellid eu haddasu yn llongau rhyfel. Ni fyddai wedi bod yn bosib iddynt archebu llongau arfog gan fod cytundeb rhwng yr U.D.A. a Phrydain yn gwahardd gwerthu arfau o unrhyw fath i'r Conffederasiwn.
Un o'r ysbïwyr hynny oedd gŵr o'r enw James Bulloch, cyn swyddog yn llynges yr U.D.A. ond a gefnogai'r Conffederasiwn. Llwyddodd y gŵr hwn, nid yn unig i brynu llongau, ond hefyd i ddod o hyd i arfau ar gyfer y llongau a channoedd a'r filoedd o ynnau a chleddyfau ar gyfer y fyddin.
Roedd gan y ddwy ochr - cefnogwyr yr Undeb a'r Rebeliaid - eu hysbïwyr ym Mhrydain, ac un noson, yr 11eg o Hydref, 1861, roedd Bulloch yn cysgu mewn gwesty yng Nghaergybi, ymhell o gyrraedd ei elynion, pan stemiodd llong 460 tunnell, y "Fingal," a brynwyd ganddo, o Gaergybi a chyn cyrraedd y "Breakwater" aeth i wrthdarawiad â llong o Awstria, a'i suddo, a chollwyd pawb o'r criw. Prysurodd ysbïwr arall o dras Albanaidd o'r enw Low i ddweud wrth Bulloch am y ddamwain,
|
Sam Roberts |
a rhoes yntau orchymyn i'r "Fingal" hwylio am y môr mawr heb oedi, rhag i'r awdurdodau ddod i wybod bod dros 15000 o ynnau a 3000 o gleddyfau ar ei bwrdd.
Gwnaeth Bulloch ddiwrnod da o waith i achos y Conffederasiwn, ond roedd ei orchest fwyaf i ddod. Yn ystod mis Awst, 1862, roedd un o longau mawr yr U.D.A. o'r enw "USS Tuscarora" wedi ei hanfon i warchod glannau Gogledd Cymru, gan ei bod yn hysbys bod Bulloch wedi archebu llong a adwaenid fel "Rhif 290," ac yn ddiweddarach fel yr "Enrica," gan Laird, Penbedw, a'i bod ar fin mynd ar ei threial cyntaf. Roedd is-gennad yr U.D.A. yn Lerpwl wedi derbyn gwybodaeth gan ei ysbïwyr bod llawer o ddinasyddion dylanwadol y ddinas a'u gwragedd wedi eu gwahodd ar fwrdd yr "Enrica" am drip i ddathlu, ac nad oedd berygl i'r llong hwylio ymhell o gyrraedd glannau Merswy a Gogledd Cymru.
Stemiodd yr "Enrica" allan i Fae Lerpwl yng nghwmni'r tynfad "Hercules," a gyflogwyd fel mesur diogelwch i gadw gwyliadwriaeth ar y llong newydd yn ystod y profion. Yn ddiweddarach ar y dydd dychwelodd yr "Hercules" gyda'r oll o'r gwaheddodigion a Bulloch ar ei bwrdd. Ddiwrnod cyn i'r "USS Tuscarora" gyrraedd glannau Gogledd Cymru, roedd Bulloch wedi trefnu i griw o forwyr y Conffederasiwn i fynd i Fae Moelfre i gymryd meddiant o'r "Enrica" a oedd wrth angor gyferbyn â Thraeth Coch. Ymddengys bod gŵr lleol, John Roberts, wedi amau bod rhywbeth o'i le ac o ganlyniad fe'i cymerwyd yn garcharor gan y criw. Ef oedd y cyntaf o gryn lawer i gael ei gymryd yn garcharor ar y llong honno.
Hwyliodd yr "Enrica" allan i Fôr Iwerydd ac i fyny am un o ynysoedd Gorllewin yr Alban, lle bu'n aros llong arall a hwyliodd o Lundain gydag arfau ac ystorfa o fwydydd ar ei chyfer. Yna newidiwyd ei henw i "CSS Alabama," chwifiodd faner y Conffederasiwn, ac aeth allan i greu hafog o dan arweiniad Capten Semmes.
Dyma'r llong y bu Samuel Roberts ar ei bwrdd fel carcharor ac fel aelod o'r criw. Ymosododd yr "Alabama" ar 65 o longau ymhob rhan o'r byd bron, gan ddwyn eiddo ac yna eu llosgi. Dywedir iddi greu difrod o $4,000,000 o leiaf, ac yr oedd yn ddraenen yn ystlys cefnogwyr yr "Undeb." Ni faddeuodd llywodraeth gyfreithlon yr Unol Daleithiau i Brydain am ganiatau i'r "Alabama" ddianc o'u gafael, ac yn 1872, mewn Llys Rhyngwladol, bu raid i lywodraeth Prydain dalu iawndal o $15,500,000, sef cyfanswm y golled ynghyd â llog.
Cwta ddwy flynedd y bu'r "Alabama" yn creu y fath alanas, a gwaith amhosib bron oedd i lynges yr Undeb ei chornelu. Ond, fe ddaeth y dydd hwnnw ym Mehefin, 1864.
Wedi i rai o'i llongau cyflymaf fod yn ymlid yr "Alabama" am fisoedd lawer, o'r diwedd daeth llwyddiant, ac ar ôl brwydr a barodd am awr gyfan, suddwyd hi gan ynnau mawr yr "USS Kearsage" ger glannau Cherbourg yng Ngogledd Ffrainc.
Hon oedd y bennod olaf yn hanes yr "Alabama," ond nid felly yn hanes Samuel Roberts. Rai misoedd ynghynt, ac yntau wedi bod ar ei bwrdd am gyfnod o 13mis, aeth ef a chyfaill iddo i'r lan yn Capetown, ac nid aethant yn ôl i'r llong. Llwyddodd Sam, yn ddiweddarach, i ddychwelyd i Gymru ac i'w dref enedigol, a bu'n byw mewn bwthyn ger Ysgol Twtil.
Fel amryw eraill a fu ar y môr am gyfnod ystyrid ef yn dipyn o gymeriad, a mynnai gael ei gyfarch fel "Capten" Roberts, er na fu erioed yn un. Honnai, pe byddai wedi derbyn y gyfran a oedd yn ddyledus iddo fel aelod o'r criw, h.y. yn ôl telerau môr-ladron, y byddai hynny rhwng £2000 a £3000. Roedd ef hefyd yn feirniadol iawn o'r hyn a alwai yn ei henaint yn longwyr modern. Credai y byddai gwell siap ar Brydain pe byddai rhai fel Nelson a'i gyfoedion yn dal i fod yn fyw.
Yn ystod ei gyfnod yng Nghaernarfon ei gyflogwr oedd saer maen o'r enw Hugh Jones, ond yn ddiweddarach aeth i weithio i chwarel y Cilgwyn, a symudodd i Groeslon i fyw. Wedi ymddeol aeth pethau yn bur fain arno a dibynnai yn gyfangwbl ar bensiwn Lloyd George ac ar drugaredd cymdogion. Un o'r rhai hynny oedd Ficer Llandwrog Uchaf, Y. Parch. R.R. Roberts.
Bu Sam farw ar Ebrill 12, 1916 yn 84 oed, ac fe'i claddwyd yn Eglwys Sant Tomos yn y Groeslon gyda'r Parchedigion R.R. Roberts a W. Wallis, (Ann.) yn gwasanaethu. Rhyfel a ddaeth ag ef i amlygrwydd, Rhyfel Cartre'r Amerig, a bu hefyd farw yn ystod rhyfel arall, Y Rhyfel Byd 1.
Dyma'r pennawd yn croniclo hanes ei farwolaeth yn y "Carnarvon & Denbigh Herald," Ebrill 21. 1916:
"Last Alabama Survivor -
Death of 'Captain' Sam Roberts."
© T. M. Hughes 2010