Caernarfon Ddoe/Caernarfon's Yesterdays header



Y SIOE ENFAWR

Cant a chwech o flynyddoedd yn ôl union i eleni ac ar y 4ydd o Fai, digwyddodd rhywbeth o bwys yng Nghaernarfon ac, er mai 1904 oedd y flwyddyn, nid oedd ganddo ddim oll i'w wneud â'r diwygiad nac â chrefydd. Daeth rhan helaeth o'r Gorllewin Gwyllt yma i'r dref a'r gŵr oedd yn gyfrifol am yr ymweliad undydd hwn oedd neb llai na William Frederick Cody, neu â rhoi iddo ei lysenw Buffalo Bill. Cychwynnodd ef ar daith trwy Ogledd Orllewin Cymru gydag 800 o berfformwyr o amryw wahanol wledydd
Buffalo Bill
a 500 o geffylau a rhoes berfformiadau yn Llandudno (Mai 2); Caergybi (Mai 3); Caernarfon (Mai 4); Porthmadog (Mai 5) cyn symud ymlaen i Ddolgellau ac oddi yno i Aberystwyth.

Ganed W.F. Cody ar Chwefror 26. 1846 ger Le Claire, Iowa, ac roedd yn un o gymeriadau mwyaf lliwgar y Gorllewin Gwyllt. Bu'n filwr Americanaidd yn y Rhyfel Cartref o 1863 i 1865. Yna o 1868 i 1872 gwasanaethodd fel Prif Sgowt i'r Third Cavalry yn ystod y Plains Wars. Dyrchafwyd ef yn Gyrnol a derbyniodd y Medal of Honor yn 1872. Bu iddo amryw o swyddi eraill ac yn eu mysg bu'n heliwr ych gwyllt (bison) a chontractwyd ef gan y Kansas Pacific Railroad i gadw'u gweithwyr mewn cig ych. Mewn cyfnod o wyth mis dywedir iddo ladd 4,860 o'r anifeiliaid hyn a roddwyd yr enw Buffalo Bill arno. Fodd bynnag, nid ef oedd y cyntaf i arddel yr enw hwnnw, ond gŵr o'r enw Comstock. Enillodd Cody yr hawl i'r enw trwy gynnal cystadleuaeth rhyngddo ef a Comstock i edrych pa un o'r ddau a lwyddai i ladd y nifer mwyaf o'r ych gwyllt mewn amser penodedig a Cody a fu'n fuddugol.

Yn Rhagfyr 1872, aeth Cody i Chicago gyda chyfaill iddo, Jack Omohundro o Texas i gychwyn ar yrfa newydd fel perfformwyr mewn sioe a elwid yn The Scouts of the Prarie, un o'r Sioeau Gorllewin Gwyllt gwreiddiol a gynhyrchwyd gan Ned Buntline. Yn ystod y tymor 1873/74 gwahoddodd y ddau ŵr gyfaill arall iddynt, sef James Butler Hickok, neu Wild Bill Hickok i ymuno â nhw mewn drama newydd Scouts of the Plains.

Dyna a fu canolbwynt ei fywyd o hynny ymlaen a bu'n hynod lwyddiannus yn rheoli ei fusnes ei hun a hwnnw yn mynd o nerth i nerth nes yn 1887 cafodd wahoddiad i ddod i Brydain i gymryd rhan yn nathliadau Jiwbili Aur y Frenhines Fictoria. Cynhaliodd sioeau yn Llundain a Birmingham cyn symud i Salford ger Manceinion lle bu'n cynnal sioeau yn rheolaidd am 5 mis. Yn 1889 aeth ar daith trwy Ewrop a'r flwyddyn olynol cyfarfu â'r Pab Leo XIII. Yn 1893 rhoes arddanghosfa yn ystod dathliadau Ffair Fawr y Byd yn Chicago
Hysbysebiad o'r Caernarfon & Denbigh Herald
a gwnaeth hynny ef yn dra phoblogaidd ac yn fyd enwog.

Ond i ddychwelyd at y flwyddyn 1904 a'i ymweliad â siroedd Gwynedd a Môn ac yn enwedig â thref Caernarfon. Dywedir i ysgolion y dref gau am y dydd er mwyn rhoi cyfle i'r plant i fynd i weld yr arddangosfa unigryw hon a oedd yn portreadu hanes cyffrous rhan o'r byd a oedd yn gyfarwydd i bob plentyn. Nid yw gofod yn caniatáu adroddiad llawn o'r sioe, ond fe gynhaliwyd dau berfformiad yn ystod y dydd, un am 2 o'r gloch y pnawn ac un arall gyda'r nos am 8 ac fe'u cynhelid mewn cae eang ar Ffordd Bethel.

Rhestrir rhai o brif atyniadau y wledd a wynebodd y rhai oedd yn bresennol. Cyflwynid y sioe o dair trên yn cynnwys 60 o gerbydau a gyrhaeddodd Gorsaf Rheilffordd Caernarfon ac a dynnwyd gan 6 Injan Stêm. Diwrnod bythgofiadwy i'r rhai a dalodd rhwng swllt a 7/6c am y fraint o gael dweud Roeddwn i yno.

Am 2 o'r gloch yn brydlon, tarrodd y Cowboy Band nodau cyffrous y Star Spangled Banner ac arwydd oedd hyn i wahanol lwythau o'r Indiaid Cochion garlamu ymlaen o dan arweiniaid eu penaethiaid ac yn eu paent a'u gwisgoedd rhyfelgar. Yr olaf o'r pennaethaid hyn oedd neb llai na mab ac etifedd archelyn arloeswyr y Gorllewin Gwyllt Sitting Bull, sef Young Sitting Bull a chafodd groeso gwresog gan y gynulleidfa.

Caed amryw o arddangosfeydd ar farchogaeth ceffylau gan rai o wahanol wledydd megis Mecsico, Y Caucaues ac America. Roedd yno hefyd 16 o aelodau o'r English Lancers a fu'n brwydro yn Rhyfel De Affrica yn ogystal â milwyr o'r American Cavalry ac eitemau eraill llawer rhy niferus i'w henwi.

Y prif atyniad, fodd bynnag, oedd golygfa o'r hyn a elwid yn Custer's Last Stand neu Battle of the Little Big Horn. Y frwydr waedlyd honno a ymladdwyd rhwng rhai cannoedd, os nad miloedd o'r Indiaid Cochion o dan arweiniad Sitting Bull a charfan fechan o filwyr Y Cadfridog Custer. Yn ôl a ddeellir ni chyrhaeddodd Y Prif Sgowt, Buffalo Bill, safle'r gyflafan tan drannoeth y drin, ond roedd yn llygad dyst i adladd echrydus y gyflafan bythgofiadwy a hanesyddol honno. Ef a gymerodd ran Custer yn yr olygfa.

Dyna frasolwg o'r sioe enfawr honno ac rwyn siwr na wad neb nad sioe unigryw ydoedd ac na welodd Caernarfon ei thebyg na chynt nac wedyn. Bu W.F. Cody fyw tan y flwyddyn 1917, ec er y dywedir iddo golli llawer o'r arian a enillodd yn ystod ei yfra fel dyn busnes llwyddiannus, fe adawodd dros 100,000 o ddoleri yn ei ewyllys ac ar ei farwolaeth ar y 10fed o Ionawr 1917, o fewn 6 wythnos i fod yn 71, derbyniwyd teyrngedau iddo gan Sior V o Brydain, Kaiser Wilhelm II o'r Almaen a'r Arlwydd Woodrow Wilson o'r Unol Daleithiau. Fe'i claddwyd yn Elks Lodge Hall, Denver, gyda'i gyfaill Governor John B. Kendrick, Wyoming, yn arwain yr orymdaith.

© T. M. Hughes 2010