CARNARVON TRADERS

The Repository of all Things Historical for the Ancient Welsh Town of Carnarvon

  Castle Square, Carnarvon. Published by Williams & Hughes, Bridge Steet, 1850


Home



Contents



What's New



News



List of Trades



Directories



Census



Miscellaneous



Biographies



Images



Parish Chest



Books



Caernarfon Ddoe/
Caernarfon's Yesterdays




Contact



Copyright


SYNNAU DRE (Ddoe a Heddiw)


Rhaffau'n taro mastiau, llongwyr yn gweiddi, synau'r tryciau yn y gwaith coed a'r ffowndri. Y merched yn taro bargen yn y farchnad bysgod, plant a'u holwyn droi, cŵn yn rhedeg ac yn cyfarth a gwichian wrth gael eu cicio gan yr hogia. Sŵn ffraeo tu allan i'r Patent Vaults wrth i'r meddwyn gwffio ar gorn dynes neu gêm o gardiau.

Y Gloch Crogi
Y Gloch Crogi © Emrys Llewelyn
Mae pob tref yn llawn synau a tydy Caernarfon ddim gwahanol. Ond mae na wahaniaeth hefyd. Nid pob tref sydd wedi clywed sŵn y llengfilwyr Rhufeinig yn agosau at Afon Seiont ar hyn a ddaeth yn gaer Segontium. Byddai'r hen bobol yn eu caer fechan ar gopa Twtil wedi bod yn syfrdan wrth weld a chlywed llinnell hir o filwyr estron yn cyrraedd.

Yn y 13eg ganrif synau anghyfarwydd cannoedd o weithwyr yn bustachu i godi muriaur dref ar castell fyddai wedi bod. Deuai llongau â'r cerrig o ochrau Caer i Cei Banc. Dyma ddatganiad mawr Edward 1af, nid yn unig yng Nghaernarfon ond yn Rhuddlan, Conwy, Biwmares a Harlech.

Ddiwedd y ganrif honno, fodd bynnag, ym 1297 clywyd corn yn galw yng nghanol y farchnad ar y Maes Glas. Roedd Madog ap Llywelyn wedi dod i ymosod ar y dref, ei llosgi, chwalur muriau ir llawr a lladd pob un or gatrawd gan gynnwys Roger de Puleston, Canghellor Arfon, Môn a Meirion. Doedd Edward ddim yn rhy hoff o hynny! O ganlyniad fuo fo fawr o dro yn anfon mintai enfawr i Gaernarfon i ddial ar Madog ai filwyr ac yna ail godir muriau. Dynar ymosodiad ola ar gastell Caernarfon er i ambell un arall, fel Owain Glyndwr, roi cynnig arni.

Ar ddechraur 15ed ganrif y cododd Owain yn erbyn y Saeson. Gydai weledigaeth am genedl ac eglwys Gymreig annibynnol esgorodd ar gyfnod cythryblus yng Nghymru. Daeth aelodau blaenllaw or eglwys ar gymdeithas iw gefnogi. Fe adawyd y Saeson i amddiffyn ychydig o gestyll a threfi caerog ond ni fu ymosodiad Owain Glyndwr ar Gaernarfon yn llwyddiannus er iddo fo ai filwyr gadwr dref dan warchau am wythnosau lawer.

Yn ystod Rhyfel Cartref 16421651 cafwyd mwy o synau chwalu a llosgi. Dymchwelyd sawl adeilad yn ardal Stryd Llanover (Llanfair Is-gaer) a Stryd Boots gan Cyrnol Bryon (Brenhinwr) er mwyn amddiffyn y castell rhag byddin Cromwell. Wrth i Stryd Boots (Ffordd Bangor heddiw) ddiflannu collwyd un o dai to gwellt hynaf y dref.

Ganrif yn ddiweddarach daeth Caernarfon yn un or porthladdoedd pwysicaf yn y byd, yn adeiladu llonagu ac yn allforioi llechi. Anfonwyd y lechen las i bob cwr or glôb a byddai sŵn y llongau llechi yn y Cei yn diasbedain. Sŵn y gweithwyr yn y ffowndri hefyd wrth ir dynion wneud tsieini, rhaffau ac angorau. Adeiladwyd dros 200 o longau ym mhorthladd Caernarfon rhwng 1758 a 1898.


 Y Cei Llechi
Y Cei Llechi © Gwasanaeth Archifau Gwynedd
Fel ym mhob porthladd mae hanesion am longau yn suddo. Byddai pobol tref Caernarfon wedi bod yn gwbl ddiymadferth, er enghraifft, wrth glywed y trueiniaid ar fwrdd y Vine yn galw am help. Fe suddodd honno ym 1847 wrth i wyntoedd eithriadol chwthu or De. De Gorllewin.

Un o longau mwyaf poblogaidd a phwysicaf Caernarfon oedd y fferi ar draws y Fenai. Mae fferi wedi croesir culfor ers canrifoedd. Deuai canoedd o bobol hwyliog gorllewin Môn i Gaernarfon ar y stemar fach i'r farchnad ar y Maes cyn ffarwelio â chyfeillion a chariadon wrth y slip yn Tyn Cei. Hyd heddiw, os sylwch chi ar iaith pobol Brynsiecyn, mae na acen Cofi iw chlywed yno yn rhywle!

Un o synau mwyaf sinistr Caernarfon oedd sŵn cloch Eglwys y Santes Fair. Hi fyddain cyhoeddi bod crogi carcharor ar fin digwydd yn y Tŵr Crogi. Heidiair dorf i weld y weithred ac fei defnyddiwyd fel esgus i gael parti! Fe ganair gloch am bum munud cyn y crogi ac roedd y deuddeg caniad ola yn rhai hir cyn ir trueiniaid ddisgyn iw marwolaeth. Gwahanol a hwyliog iawn oedd y synau a glywid ar hyd strydoedd y dref yn y 19eg ganrif. Llais y Galwr (y Town Crier) oedd hwnnw yn cyhoeddi pob math o ddigwyddiadau. Bod y Maer am gynnal ffair yn y Farchnad (er mai Llofft yr Hôl oedd y Cofis yn galw'r lle bryd hynny). Bod rhyw fyddigions yn dod i Gaernarfon i weld rhyfeddodaur dref ar rhan yma o Gymru gwlad a golygfeydd tra gwahanol i fyd bach eu tai crand ym mhellafoedd Lloegr. Bod Betsan a Robin o Trer Gof wedi cael eu llosig i farwolaeth yn eu cartref a bod Bob Robin yn y stocs yn Pendist ar ôl cael ei ddal yn gwneud dryga wedi meddwi. Fo oedd yr ola iw roi yn y stocs yng Nghaernarfon.

Pobl fel Robin syn gwneud tref yn siarad, chwerthin, ffraeo, dwrdio, caru a chrio. Mi fyddech yn clywed pob un or rheiny yn y farchnad fawr, lle gwerthid ceffylau a gwartheg. Yno byddai sŵn plant yn chwarae ac olwynion troliau yn cario pob math o nwyddau. Canmol eu basgedi gwellt ar dop eu lleisiau wnaethair sipsiwn a doedd dim pall ar genadwrir Cwac wrth sôn am ei foddion yr union foddion fyddai wedi bod yn gyfrifol am wella Ymerawdwr China medda fo! Dadlau oedd prif fyrdwn y meddwyn, tra byddair pregethwyr yn dwrdio ar cynghorwyr yn seboni am bleidlais yn etholiad wsnos nesa. Mi welech Stromboli, y dyn cryf, yn herio pawb a Martha Fawr yn gofyn i bobol ddyfalu faint oedd hin bwyso.

Ac wrth i fysus deg adael y Maes am y wlad byddai synau caru, crio, cwffio a chwerthin yn llenwir strydoedd. Erbyn heddiw, sŵn ceir, y trên bach, canu ar benwythnos gêm rygbi a gwylanod syn byddaru pawb. Ia, yr wylan felltith na syn bla ac sydd, or herwydd, wedi cael ei hail fedyddio gan y Cofi yn Cudyll Cachun Cei. Y gwir ydy bod y diawlad yn cachu ym mhobman!

Erbyn heddiw hefyd cychod pleser ywr rhan fwyaf or cychod yn y Cei ar Doc er bod rhai yn dal i fynd i sgota ac i gario ymwelwyr ar hyd y Fenai. Ond ydy, mae sŵn y rhaffaun taror mastiau iw glywed o hyd, yn union fel yr oedd hi gant a hanner o flynyddoedd yn l.

© Emrys Llewelyn 2013

  © 2003 - 2016 Keith Morris. All rights reserved