Caernarfon Ddoe/Caernarfon's Yesterdays header



TERFYSG 1752

Ar fur i'r ochr ddeheuol o'r allor yn Eglwys Llanbeblig, mae cofeb ac arni'r geiriau "S. M. William Williams, late of Glanrafon, Esq., His Majesty's Attorney General of North Wales. He died the 26th of April 1769, aged 65. This monument was erected by his widow Hephzibah Williams."

Ym Mhlas Glanrafon, Stryd y Castell yr oedd yn byw, ac yn y llyfr "Old Karnarvon" gan W. H. Jones (Cyh. H. Humphreys 1882), cyfeirir ato fel "Councillor" Williams ac edrydd hanes am derfysg yn y dref yn 1752.

Roedd yr awdurdodau yng Nghaernarfon wedi clywed si bod nifer fawr o chwarelwyr Mynydd y Cilgwyn a Rhostryfan am ymosod ar Ysguboriau ŷd yn Stryd y Jêl, gan fod pris yr ŷd yn cael ei gadw'n fwriadol uchel trwy Ddeddf Gwlad, ac na allai'r bobl gyffredin ei fforddio.

Un bore yn Ebrill 1752, ag yntau yn disgwyl yr ymosodiad, casglodd Y Cynghorydd Williams ddynion o'i gwmpas oedd wedi eu harfogi â drylliau, cleddyfau a phastynau i fod yn barod i amddiffyn y Storfa. Yn y cyfamser roedd y terfysgwyr, hwythau wedi bod yn gwneud paratoadau, rhag ofn i rywbeth fynd o'i le ar eu trefniadau. Ym Mhenrallt Isaf roedd henafgwr yn byw. Enillai ei fywoliaeth fel cweiriwr teithiol, a phan fyddai yn mynd allan i'r wlad i chwilio am gwsmeriaid, byddai'n sefyll ar groesffordd neu ar sgwâr bentref ac yn chwythu ei gorn. Yna, os byddai ffermwr angen ei wasanaeth, byddai'n mynd at y groesffordd neu'r sgwâr ac yn ei hebrwng i'w fferm. Yr hyn a wnaeth y chwarelwyr oedd trefnu gyda'r hen ŵr i chwythu ei gorn pe byddai'n gweld perygl yn debygol o ddod i'w rhan.

Am 10 o'r gloch y bore martsiodd y dynion i mewn i'r dref ac erbyn hyn roedd yr hen ŵr wedi dod i ddeall bod criw Y Cyngorydd Williams yn aros amdanynt yng Ngwesty'r Sportsman yn Stryd y Castell, a chanodd ei gorn oddi ar stepan ei ddrws, a oedd gyferbyn i'r lle'r adeiladwyd Capel Moreia. Rhedodd y dynion i gyfeiriad Ty'n y Cei a rhydio trwy'r afon i Goed Helen, gyda chriw Y Cynghorydd wrth eu cwt. Roedd un o'r charelwyr, fodd bynnag, yn fwy beiddgar na'r gweddill a phan oedd hanner ffordd ar draws yr afon, meddai wrth ei erlidwyr "Does ganddoch chi ddim bwledi, dim ond powdwr yn eich gynau." Ac meddai un ohonynt, Tafarnwr y Crown Inn, wrtho "Mi ddangosaf iti beth sy gennyf yn y gwn" a thaniodd ergyd yn syth i'w galon gan ei ladd yn y fan a'r lle. Rhuthrodd y terfysgwyr yn ôl i'r fan lle syrthiodd y truan a chan gydio'n ei gorff, dychwelyd ar wib i gyfeiriad y coed. Aeth y Cynghorydd a'i griw i chwilio am yr hen gweiriwr, ac wedi ei gael mynd ati ar unwaith i gynnal achos yn ei erbyn yn y fan a'r lle. Fe'i caed yn euog a phenderfynwyd ei grogi'n ddi-oed ger y dafarn "Anglesey Arms." Yna, fe'i tynnwyd i lawr a rhoed ef mewn arch a'i gludo i fynwent Llanbeblig. Yn ôl y sôn, roedd yn dal i gicio yn yr arch tra teflid pridd arni.

Yn y cyfamser nid oedd y terfysgwyr, hwythau, wedi bod yn segur. Gwnaethant arch ar gyfer yr un a saethwyd a'i phaentio, hanner yn hanner, yn goch a du; ac yn y prynhawn ei chario mewn gorymdaith ddwys trwy strydoedd y dref ac i'r gladdfa yn Llandwrog.

Nid oedd, fodd bynnag, derfyn ar ddialedd y Cynghorydd Williams. Trefnodd i rai o'r terfysgwyr gael eu dwyn gerbron y Llys Ynadon a'u cosbi, a dihangodd eraill ohonynt o'r wlad. Fel cadarnhâd o'r hyn a ddigwyddodd, credid bod ysbryd y sawl oedd yn yr arch goch a du wedi bod yn aflonyddu ar y "Crown Inn" am ganrif, h.y. hyd at 1852, pryd y dymchwelwyd yr adeilad i wneud lle i'r Rheilffordd.

Ychwanega W.H. Jones yn ei lyfr bod Rholiau'r Canghellor am y flwyddyn 1752, sef y fersiwn swyddogol, yn adrodd fel a ganlyn: bod dau ddyn wedi eu crogi yng Nghaernarfon am gynllwynio - un ohonynt oedd yr hen gweiriwr teithiol a'r llall oedd y chwarelwr a laddwyd - a'r Cynghorydd, Twrnai Cyffredinol Ei Fawrhydi dros Ogledd Cymru, heb amheuaeth, oedd wedi cyflwyno'r achos i'r awdurdodau yn y pencadlys.

Dywed W.H. Jones, hefyd, iddo ef ei hun yn fwriadol osgoi defnyddio enwau y rhai a fu farw, gan fod llawer o ddisgynyddion yr hen gweiriwr teithiol - teuluoedd parchus iawn - yn byw yn y dref ar y pryd.

© T. M. Hughes 2010